BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Tîm o fro'r Eco yn serennu
Gorffennaf 2007
A hithau ond ychydig wythnosau ers Eisteddfod yr Urdd, ceir nifer o adroddiadau yn yr Eco am bobl ifanc o'r fro a ddaeth i'r brig ar y llwyfan. Hawdd yw anghofio weithiau am y cystadlaethau chwaraeon sydd hefyd yn rhan o'r Urdd.
Ar 19 Mai aeth dau dîm 5-bob-ochr o Fethel i Dwrnament Pêl-droed Cenedlaethol yr Urdd ym Mangor.

Braint yw cael nodi yn yr Eco i dîm blwyddyn 8 Bethel gipio'r darian genedlaethol.

Capten y tîm oedd Daniel Bell a'i gyd-aelodau oedd Gerallt Bryn, Gruffydd John, Aaron Gwyn, Mathew Edwards ac Aled Jones. Mae'r chwech ohonynt wedi hen arrer cydweithio gan eu bod yn chwarae'n gyson i dîm yr ysgol ac i dim y pentref.

Ar gaeau Maes Glas bu timau o bob cwr o Gymru yn brwydro am y darian, a chriw Bethel yn llwyddo i drechu Rhuthun yn y ffeinal i'w chipio. Yn ôl Gerallt Jones, un o aelodau'r tîm buddugol: 'Mi wnaethon ni fwynhau'r diwrnod yn fawr ac mi roedden ni'n hapus iawn ein bod ni wedi curo.'

Dwi'n siŵr eich bod chi, hogia! Da iawn chi. Braf yw gweld criw ifanc o fro'r Eco yn llwyddo ar lefel genedlaethol. Dymuna'r hogiau ddiolch yn fawr iawn i Swyddfa Bost Bethel am roi cartref i'r darian.

Braf yw cael llongyfarch y tim hŷn o Fethel hefyd, sef tîm blynyddoedd 9 a 10. Mae'n rhaid fod pêl-droed yn y gwaed ym Methel gan i'r tîm hwn hefyd lwyddo i ddod yn ail drwy Gymru. Yr aelodau oedd Cai Jones, Robin Jones, Sion Elwyn, Dyfan Coles a Huw Griffiths.

Llongyfarchiadau mawr i'r ddau dîm.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy