Sant Mihangel, Llanrug
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol ar ddydd Mawrth, Ebrill 15. Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Parchedig Robert Townsend lun arbennig o'r eglwys wedi ei fframio i Miss Catherine May Rowlands ar ei hymddeoliad. Mae Miss Rowlands wedi cwblhau deugain mlynedd o wasanaeth ffyddlon mewn ffurfiau gwahanol i'r Eglwys yn Llanrug.
Arlunydd lleol, Howard Mitchell, wnaeth y llun - a ddaeth i gylchrediad yn 1993. Gwnaed 150 yn unig o gopïau ohono ac mae un bellach yn eiddo i Miss Rowlands. Derbyniodd hefyd fasged hardd o flodau fel gwerthfawrogiad am ei holl waith caled dros y blynyddoedd. Mae holl aelodau Cyngor a chynulleidfa Eglwys Sant Mihangel yn dymuno iechyd da a phob hapusrwydd iddi i'r dyfodol. Yr un yw dymuniadau pentrefwyr Llanrug hefyd.
Sant Padarn, Llanberis
Dridiau yn ddiweddarach, ar nos Wener, 18 Ebrill, daeth aelodau Eglwysi St Padarn a St Peris ynghyd yng Ngwesty'r Fictoria, Llanberis. Dathlu a diolch oeddynt am wasanaeth ffyddlon a hirfaith Mr Ernest Owen a Mrs Audrey Evans i Eglwys St Padarn. Darparwyd popeth yn ddiarwybod i'r ddau a bu'n syndod rhyfeddol iddynt gerdded i mewn i'r ystafell fwyta orlawn a chael eu cyfarch gan groeso byddarol.
Ar ddiwedd y pryd blasus, fe'u anrhegwyd i nodi gwerthfawrogiad pawb o'u gwasanaeth diflino dros nifer fawr o flynyddoedd. Derbyniodd Mrs Evans icon arbennig o brydferth o'r Forwyn Fair a'i Phlentyn, ac fe dderbyniodd Mr Owen ŵy arian o'r Croeshoeliad a'r Dyrchafael, gyda cherfluniau hynod o gywrain arno. Hefyd, cyflwynwyd torch o flodau i Mrs. Evans ac i Mrs Nan Owen, gwraig Ernest.
Bu Mrs Audrey Evans yn Warden y Rheithor yn St Padarn am ddeunaw mlynedd, gan gychwyn gyda'r Parch. Peter Pritchard. Hi oedd yn gyfrifol am drefnu a pharatoi popeth oddi fewn i'r eglwys tra roedd Ernest yn gofalu am y tu allan. Pob lwc i'w holynydd, Mrs Dilys Roberts, Arlys.
Mae Ernest yn un o linach clochyddion Llanberis, gan gychwyn gyda'i dad, Thomas Owen (Clochydd). Roedd y meibion i gyd yn cymryd eu tro ar y gloch, sef Robin (Bob), Huw, Twm, Ifan ac Ernest.
Cychwynnodd Ernest ganu'r gloch tra'n dal yn yr ysgol a bu wrth y gwaith ers hynny. Bydd yn bedwar ugain oed mis Tachwedd nesaf! Ni chanwyd y gloch drwy gyfnod y rhyfel a, chan fod ei frodyr yn y fyddin, Ernest gafodd yr anrhydedd o ganu'r gloch i nodi fod y rhyfel wedi dod i ben.
Cloch yr eglwys oedd doc dydd Sul pobl Llanberis a rhaid oedd bod yn brydlon i'r eiliad neu fe fyddai'n rhaid ateb i Thomas Owen. Yn y cyfnod cynnar, rhaid oedd canu'r gloch chwe gwaith pob Sul- am 8, am 10 ac yna am 11 y bore (y gwasanaeth Saesneg) Yna ar gyfer yr ysgol Sul am 2, y gwasanaeth Saesneg am 5 ac yna yr un Cymraeg am 6 yr hwyr.
Ar ben ei ddyletswyddau fel clochydd, roedd Ernest yn Is-Warden yr eglwys hefyd. Cyn dyfodiad y boiler nwy, rhaid oedd gosod tan oer ar nos Sadwrn a'i danio am 7.30 fore Sul. Ac, wrth gwrs, roedd llawer o waith cynnal a chadw ar yr adeilad, fel glanhau'r gwterydd a thorri'r gwair.
Da gwybod fod Dafydd, mab Ernest, am olynu ei dad i wneud y gwaith a pharhau llinach y clochyddion.
Talwyd teyrnged i Mrs Evans a Mr Owen gan y Rheithor, y Parchedig Robert Townsend; Mr. Gordon Owen, Mr John Roberts a Mrs. Susan Williams, a chyflwynodd Mrs Anne Parry Jones farddoniaeth a gyfansoddodd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Mawr yw diolch y ddau i Mr Ralph Jones am drefnu'r noson fythgofiadwy iddynt.
Pob dymuniad da ac ymddeoliad hir a hwylus i'r ddau ohonoch gan holl drigolion Llanberis a'r fro hefyd.