BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Bryn Owen yn y rasLlwyddo yn y Grand Prix
Hydref 2005
Mae tîm rasio beicia modur o Fro'r Eco wedi llwyddo yn y gystadleuaeth Grand Prix Prydeinig.
O flaen torf o 50,000 a chamerâu Sky a'r BBC, fe gafodd y tîm bychan lleol lwyddiant wrth gystadlu yn erbyn timau mawr proffesiynol fel Honda a Suzuki.

A chymaint oedd eu llwyddiant, mae nhw rŵan wedi cael eu gwahodd ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Llongyfarchiadau mawr i'r tîm - Bryn Taff, y rheolwr, a'r noddwr o Lanrug, Alffi, y mecanic a'r dyn sy'n llywio'r beic modur, Bryn Owen o Nebo.

Mae rhyw ramant ym myd y campau pan y mae Dafydd - boed yn unigolyn neu dîm - yn herio Goliath. Credais erioed mai gwir ddiffiniad o'r campwr amatur oedd yr un a chanddo hyder yn ei allu i herio gwrthwynebydd o allu uwch. Yn yr herio y megir profiad. Hawdd yw bod yn bysgodyn mawr mewn pwll bach.

Yn sicr, mae rhamant yng nghroniclo profiad tîm rasio beiciau modur Bryn Taff, o Lanrug, yn ddiweddar. Cafodd y tîm yma sylw gennyf o'r blaen, yn sgîl eu perfformiadau yng Nghystadlaethau trac Tŷ Croes a draw yn Swydd Caer. Soniais am gyfraniad Bryn fel noddwr a rheolwr, Alffi fel mecanic amryddawn, a Bryn Owen o Nebo, sy'n llywio'r beic Honda 125cc.

Yng nghyswllt Tŷ Croes, bu'n dymor llwyddiannus i'r tîm. Gyda dim ond un ras yn weddill, yr Anglesey Grand, maent yn arwain Pencampwriaeth y Wirral Hundred Club a Phencampwriaeth Clybiau Swydd Caer a Nantwich. I goroni'r tymor, mae Bryn newydd dorri'r record am gyflawni ras saith cy1ch yn Nhŷ Croes - record a safodd am bum mlynedd.

Rhaid cofio nad camp rad yw hon. Gall set o deiars rasio gostio £200, a gall holl gostau un ras fod cyn gymaint a £700. Mae hyn yn gryn ofyn ar dîm rasio bychan o gefn gwlad Cymru. Y mae cefnogaeth barod eu noddwyr lleol yn holl bwysig.

Yna'r rhamant. Dros yr ail benwythnos o Fedi, mentrodd y tri i ffau'r llewod, yn llythrennol. Penderfynwyd llwytho'r fan a'i hanelu am Oulton Park, a'i gosod wrth ochr artics Honda, Suzuki ac ambell i Oliath mawr arall y gamp. Y gyrrwr o Nebo ymysg gyrwyr oedd yn ennill hyd at £60,000 am gynrychioli'r timau gwaith.

Bryn Taff, Alffi a Bryn Owen yn syllu'n gegrwth ar gyfarpar y gwrthwynebwyr:

"Newid teiars, fel eu bod nhw'n tyfu ar goed," chwedl Bryn, ac yntau yn gwarchod un pâr fel petaent y rhai olaf ar y ddaear.

Yr achlysur oedd y Grand Prix Prydeinig, a denwyd torf o 50,000 a chamerâu Grandstand a Sky i wylio'r rasus yn y gwahanol ddosbarthiadau.

Ar y dydd Gwener dibynnu ar ddawn Alffi i baratoi y beic. Dau sesiwn o hanner awr i Bryn gael cynefino â'r cwrs, gan fod rhaid bod yn barod yn dechnegol a meddyliol am y Rownd Ragbrofol ar y Sadwrn.

Daeth y glaw fore Sadwrn. Mwy o ofyn am ddoniau Alffi. Dewis y teiars cywir a gosod y gears i gyfateb â gofynion Bryn. Roedd Bryn Taff yn nerfus, gan syllu ar y llu profiad yn y timau eraill. A allai Bryn Owen ymateb i'r her?

I fynd trwodd i'r rownd derfynol, roedd gofyn i Bryn fod o fewn 110% o amser y buddugwr. Dechreuodd 45 y rhagras, ond dim ond 35 a gyflawnodd y gofynion. Roedd Bryn Owen yn safle 30, ac felly trwodd i'r 'ras fawr'. Roedd rhai mwy profiadol wedi boddi wrth ymyl y lan. Un peth oedd mentro.

Anhygoel oedd hawlio'i lle yn haeddiannol yn y Grand Prix ei hun. Roedd tipyn o ymsythu a balchder yng ngherddediad Bryn Taff tuag at stondin Dunlop i brynu par o 'slics' newydd ar gyfer trannoeth. Yr oeddynt wedi ennill eu lle, ac eisoes yn denu llongyfarchion a chanmoliaeth gan y timau eraill. Yr oedd y ddraig yn chwifio - a chwythu!

Gwaith dros nos eto i Alffi. Dyma'r prawf mwyaf o'i allu hyd yn hyn. A allai Bryn Owen o Nebo bell ddal ei nerf o flaen 50,000 o dorf?

Galwyd y 35 i'r cychwyn a Bryn yn safle 30 ar y grid. Ras o 14 cylch, a derbyniodd Bryn yr her. Ei gyfartaledd cyflymdra oedd 85 m.y.a., gyda'i amser gorau am un cylch yn 1 munud 51 eiliad. Ei safle terfynol? Yn anhygoel, safle 24 allan o'r 35. Yr oedd y tîm bach wedi hawlio ei le, ac roedd y sylw a roddwyd iddynt yn siarad cyfrolau am faint cyflawniad y tîm rhyfeddol yma.

Mae cryn edrych ymlaen yn barod, wedi iddynt dderbyn gwahoddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Ymfalchïwn ym menter tîm rasio Bryn Taff, ac mae yntau eisiau diolch i'r canlynol am eu nawdd parod. Rwy'n siŵr na wrthodir cyfraniad ariannol unrhyw un i gynnal fflam y freuddwyd yn fyw.

Garej Gwalia; Owen Glyn Owen a'i Fab (Cigydd); Black Boy, Caernarfon; O'Grady Plant Hire; Ty'n Lon Volvo, Llanfairpwll; Express Motors; Snowdon Aquatics; J. M. Rowe, Deintydd; T. J. Fixit; Garej Arwyn, Pen-ygroes; Alan Wyn,. Caerloyw; Regency Signs; Menai Freight Services; H. F. Owen, Bethel; Neil Broda Surfacing; Gors Bach; Cen ap Tomos; Neil Zammit; Cronfa Goffa Robin Jac; Gwilym a Dennis, Y Fali; Dic a Meirwen, Caer Maen; John a Morfudd, Bryn Coch; Meilir ac Eleri; Weldspar Waenfawr; Caffi Cibyn a Tim, Garej Beran.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy