Mae Rhian Green, 27, cyn ddisgybl o Ysgol Brynrefail, wedi cael ei dewis i chwarae rhan un o'r prif gymeriadau mewn cyfres drama ar S4C. Hi sy'n actio rhan Elen, myfyrwraig newyddiaduraeth yn Caerdydd, drama gyfoes newydd wedi ei lleoli yn y brifddinas. Yn rhannu fflat gyda dwy ferch arall, mae Elen yn dysgu'n gyflym fod bywyd y ddinas yn gyffrous ond yn llawn her.
"Fe wnes i fwynhau chwarae rhan Elen," medd Rhian, o Bontrug ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. "Mae gennym ni rai pethau yn gyffredin ac mae'n anodd peidio dod a phrofiadau personol i ran fel hyn, ond mae Elen yn berson lot mwy tanbaid nac ydw i.
"Mae Caerdydd yn ddarlun eithaf teg o fywyd yn y brifddinas. Yn sicr yn nhermau'r bobl sy'n byw yno; mae yno nifer fawr o'r gogledd a gorllewin Cymru. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roedd pobl o ogledd Cymru yn cael eu tynnu at Lerpwl neu Fanceinion ond rŵan mae gan Gaerdydd lot i'w gynnig."
Cafodd yr actores ifanc ei magu yn ardal yr Eco, ac mae ei rhieni yn dal i fyw ym Mhontrug. Fe symudodd Rhian i Gaerdydd i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama wedi iddi gwblhau gradd mewn Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi byw gydag wyth o fyfyrwyr - merched i gyd - tra'n astudio mae ganddi ddigon o brofiad o rannu tŷ.
Meddai Rhian: "Roedd y naw ohonom ni'n cyd-dynnu'n iawn yn y tŷ yn Aber. Dydi pethau ddim cweit mor dda rhwng y merched yn y gyfres. Mae'r tair yn gallu colli eu tymer yn hawdd ac maen nhw'n ffraeo tipyn. Mae'r fflat ei hun yn lyfli ond faswn i ddim yn ei ddewis. Mi fasa'n well gen i gael tŷ efo gardd a thipyn o le o'i amgylch."
Mae Caerdydd yn gyfres ddrama o saith pennod, yn darlunio bywydau grŵp o ffrindiau - pobl broffesiynol yn eu hugeiniau a'u tridegau - sy'n byw ac yn gweithio yn y Gaerdydd gyfoes ddwyieithog. A tydi eu bywydau cyflym a bras, eu perthynas a'i gilydd a'u carwriaethau cymhleth yn
gadael prin ychydig i'r dychymyg.
Mae nifer o actorion o'r brifddinas yn ymddangos yn y gyfres yn ogystal â phobl ddŵad. Yn y gyfres mae cymeriad Rhian yn rhannu fflat gyda Ceri (Siwan Morris), perchennog ffroenuchel y Noodle Bar ym Mae Caerdydd, a Lea (Alys Thomas), sydd newydd ail-leoli i Gaerdydd i weithio yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ôl Comisiynydd Drama S4C, Angharad Jones, mae Caerdydd yn adlewyrchiad teg o fywyd yn y brifddinas ddwyieithog:
"Mae Caerdydd yn ddrama newydd am siaradwyr Cymraeg modern, dinesig sy'n byw mewn awyrgylch dwyieithog," meddai. "Tra bod rhai o'r cymeriadau yn ymdopi'n dda gyda'r bywyd dinesig, mae eraill yn llai hyderus.
"Bydd y cymeriadau'n sicr o atgoffa rhai o'r gwylwyr o ffrindiau neu berthnasau ond mae un cymeriad sy'n sefyll allan, sef dinas Caerdydd ei hun. Fe ffilmiwyd y gyfres mewn nifer o leoliadau ledled y ddinas ac mae'r brifddinas yn edrych ar ei gorau, yn gefndir cyfoes i'r gyfres ddrama newydd hon."