Os ewch chi i Lanberis, fe gewch chi Stryd Goodman - ar ôl yr esgob enwog a ddaeth i
Lanberis yn yr 1644; Rhes Victoria - ar ôl ymwe1iad honedig y Frenhines honno i'r pentref yn 1832, neu hyd yn oed Ysgol Dolbadarn - ar ôl y castell Cymreig canoloesol a'r sant hynaws. Ewch wedyn i efeill dref Llanberis yng ngogledd yr Eidal - Morbegno: Via Garibaldi ar ôl yr arwr milwrol hwnnw neu Via Venezia i nodi'r ffordd hanesyddol o'r dref i Fenis.
Ond beth am Via Llanberis?! I'r mwyafrif o ymwe1wyr i dref
Morbegno, mae'n debyg na fyddai'r cysylltiad yn un amlwg ond i'r rhai sydd wedi bod yn teithio rhwng y ddwy dref ers bron i 30 mlynedd mae'n dystiolaeth bendant o'r cyfeillgarwch a'r cysylltiad sydd wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd. Cynhaliwyd y seremoni yn ystod ymweliad blynyddol tîm Ras Yr Wyddfa a
chlwb Rhedeg Eryri i Morbegno
ym mis Hydref eleni. Codwyd
nifer o dai a fflatiau fforddiadwy o dan gynllun Ewropeaidd ar gyfer teuluoedd ifainc y dref a phleser oedd canfod fod cyngor y Dref wedi anrhydeddu Llanberis yn y fath fodd, yn ychwanegol at y pedwar
arwyddbost sydd eisoes wedi eu codi ar ffyrdd sydd yn arwain i'r dref o wahanol gyfeiriadau. Gwnaed y cysylltiad cyntaf gyda Morbegno yn ystod pumed Ras yr Wyddfa yn 1980, ac ychydig a wyddem bryd hynny y byddai buddugoliaeth Privato
Pezzoli yn sail i berthynas mor glos ac agos rhwng cymunedau Llanberis a Morbegno yn y dyfodol. Erbyn heddiw gallwn
ddweud fod llu athletwyr o'r ddwy wlad
wedi cystadlu yn Ras Yr Wydda a'r Trofeo Vanoni; sawl cyfeillgarwch wedi ei chreu rhwng trigolion y ddwy ardal
chynrychiolwyr o ysgolion a chynghorau lleol y ddwy wlad
wedi ymweld â'i gilydd yn gyson fei rhan o'r cynllun gefeillio. Mae'r ddwy ras a chlybi rhedeg C.S.I Morbegno a Chlwb Rhedeg Eryri, hefyd wedi
gefeillio â'i gilydd. Yn wir mae'r cyfeillgarwch
cysylltiad yn un unigryw sy'n ymestyn y tu hwnt i fyd cyffrous rhedeg mynydd. Y flwyddyn nesaf byddwn yn croesawu'r Eidalwyr i Lanberis am y degfed tro ar hugain yn olynol. Fe fydd y digwydd yma yn hynod o bwysig i un sefydlwyr y gefeillio, sef Pierto Botta, a fydd yn cystadlu yn y
ras am 30ain blynedd yn olynol. Tipyn o gamp! Os hoffech chi fod yn o'r cynllun cyffrous hwn - dewch i'r cyfarfod gefeillio nesaf yn Ngwesty'r Fictoria, Llanberis ar nos Fercher Ionawr 14ain. 2009 am saith gloch.
 |