BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Math EmyrMynd am Dro
Gorffennaf 2003
Stori Math Emyr, Ysgol Gynradd Llanrug a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 8 oed yn Eisteddfod yr Urdd eleni.
Pan fydda i yn mynd i Glasfryn at Nain a Taid ar fy ngwyliau mae Taid a fi yn mynd am dro i ben Mynydd Ty'n Graig yn y picyp hefo Siôn a Llio a Llion.

Mae Mynydd Ty'n Graig i fyny yn uchel iawn uwch ben Cefn Brith a pan fyddwn ni yn mynd yno mae'r ffordd yn andros o anwastad ac mae yna un bymp ofnadwy o fawr. Rydym ni yn taro ein pen ar do y picyp wrth fynd drosto fo ac yn chwerthin llond ein boliau.

Mae cwn Taid yn dod yn y picyp hefo ni. Enw y cwn ydi Pegsan a Fflei a Smot y ci drwg a Pwten a Cymro. Ni biau Cymro ond mae o ar ei wyliau yn ty Taid a Nain dros y gaeaf.

Mae Pwten yn mynd i gael cwn bach. Mae y cwn yn mynd yn wirion bost yn y mynydd am bod nhw yn hoffi mynd am dro yno. Mae Fflei yn ffraeo hefo Pegsan ac mae Pegsan yn colli a Fflei yn curo. Bydd Taid yn cael trafferth hefo Smot. Dydi o ddim eisiau dod yn ôl i'r picyp. Mae Taid yn gorfod chwibanu a chwibanu ond dydi Taid ddim yn gallu ei gael yn ôl. Wedyn mae Taid yn gwylltio yn gacwn.

Mae Siôn a Llio a Llion a fi yn hoffi chwarae ar y mynydd ac weithiau mae ceffylau yn dod at y wal i'n gweld ni. Brown ydi'r ceffylau ac mae nhw yn wyllt. Mae nhw yn ganol y grug piws.

Mae Nain yn gwneud bwyd i ni fynd hefo ni am dro i'r mynydd. Rydym yn cael banana a iogyrt toffi a wotsit a dwr ac mae Taid yn cael coffi. Rydym ni yn chwarae pêl cyn mynd adre.

Dwi wrth fy modd yn cael mynd am dro i Mynydd Ty'n Graig hefo Taid a bob tro pan fyddaf i yn mynd i Glasfryn byddaf i yn gofyn i Taid, Gawn ni fynd i ben y mynydd heddiw, plis?'

Math Emyr


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy