BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Carnifal LlanbêrPen y daith i garnifal Llanbêr
04 Ebrill 2003
Bydd bwlch yng nghalendr gweithgareddau pentref Llanberis eleni, a hynny am y tro cyntaf ers 30 mlynedd. Ni chynhelir y Carnifal ...

Nid yn unig fod y cyhoeddiad yn dipyn o sioc, ond mae hefyd yn siom i filoedd sy'n mynychu Cae Goeden o flwyddyn i flwyddyn. Nid trigolion Llanberis yw'r unig rai ddaw i fwynhau yr amrywiol weithgareddau - daw pobl o bod cwr o'r Gogledd yma i sawru awyrgylch un o garnifalau mwyaf lliwgar a byrlymus o fewn eu cyrraedd. O safbwynt codi arian i gymdeithasau a mentrau lleol bu'r Carnifal yn llwyddiannus iawn. Nid ai blwyddyn heibio heb i goffrau cymdeithasau penodedig elwa'n sylweddol.

Colled i bentref Llanbêr
Dirgelwch a siom digamsyniol i'r trefnwyr ffyddlon (rhai ohonynt wedi bod wrth y llyw ers 30 mlynedd) oedd deall, er yr holl apelio taer, nad oedd neb yn fodlon ymuno â'r pwyllgor i gario'r gwaith ymlaen. Diogi, difaterwch, prysurdeb, galwch o beth fynnoch chi - un lle fydd ar ei golled - pentref Llanberis. Roedd y siom yn amlwg yn llais Eurwyn Thomas, y Cadeirydd presennol, pan oedd yn olrhain hanes y Carnifal. Bu'n ymwneud â'r gweithgareddau ers ei gychwyn.

Y clwb ieuenctid a ailgyfododd y carnifal er mwyn codi arian i'r coffrau, yna y clwb pêl-droed, ac yna fe ffurfiwyd y pwyllgor carnifal. Bu 40 o bobl yn ymwneud â'r trethiadau ar un adeg, ond erbyn hyn dim ond llond dwrn o'r ffyddloniaid sydd ar ôl.
Ychwanega Eurwyn y byddai rhai o'r pwyllgor yn fodlon aros am gyfnod byr i gynorthwyo trefnwyr newydd.

Gwaith gwirfoddol ydyw ond mae wedi rhoi boddhad a phleser i lawer dros y degawdau.Hoffai Eurwyn ddiolch o waelod calon i'r llu fu, o bryd i'w gilydd, yn gosod ysgwyddau dan yr iau i sicrhau carnifal llwyddiannus bob blwyddyn.

Cwestiynau i brocio'r meddwl
Mae'n ofid calon i Eco'r Wyddfa fod sefydliad, sydd wedi bod mor bwysig i ddyfodol y fro, ar fin cael ei ddiddymu, ac o'r herwydd hoffem ofyn dau gwestiwn sylfaenol i brocio meddwl a chydwybod unrhyw un sy'n caru ei fro.

Yn gyntaf, os nad oes ieuenctid neu waed ifanc yn fodlon cymryd yr awenau, onid yw'n ddyletswydd ar rieni i'w perswadio'n daer, gan danlinellu mai nhw yw dyfodol y fro?

Yn ail, gan fod sawl cymdeithas yn Llanberis wedi derbyn rhoddion hael iawn o gronfar carnifal yn y gorffennol, onid ywn ddyletswydd arnynt hwythau i ethol dau neu dri cynrychiolydd ou plith i fynychu pwyllgor i dalur ffafr yn ôl, i ddangos parch a gwerthfawrogiad o ymdrechion trefnwyr y gorffennol, ac i achub y carnifal?

O ymateb yn bositif, drigolion Llanberis, chi fydd ar eich ennill ond, o ymateb yn negyddol, byddwch yn dystion ar ddechrau canrif newydd i arwyddion pendant o dranc cymdeithas.

Gweithredwch heddiw bydd yfory yn rhy hwyr.

Un o'r Golygyddion.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy