| A Chymru'n gartref i dros dri chant o fwytai Indiaidd, gall perchennog bwyty Sopna, Pontrug, deimlo'n hynod falch o'i lwyddiant. Daeth y cyhoeddiad hwn wedi wythnosau o waith caled gan Shadek Ali - neu 'Sid' fel yr adwaenir ef gan ei gwsmeriaid ffyddlon. Rhannwyd y gystadleuaeth yn dair rownd: y cwsmeriaid oedd yn gyfrifol am y rownd agoriadol, ac mi fuon nhw'n pleidleisio'n ddiwyd er mwyn cyrraedd y rhestr fer o ddeg bwyty: tipyn o gamp i'r bwyty lleol o ystyried fod y naw arall wedi eu lleoli yng Nghaerdydd! Yn yr ail rownd ymwelodd panel o feirniaid i'r bwyty ac ar ôl cael eu plesio, fe gyhoeddwyd fod Sopna wedi cyrraedd y tri olaf. Ar gyfer y rownd derfynol teithiodd Sid a'i gogydd i Gaerdydd, ble bu'n rhaid iddyn nhw goginio pryd i banel arall o feirniaid. Yn dilyn hynny, cyhoeddwyd mai Sopna oedd pencampwyr tai Bwyta Indiaidd Cymru.
Wrth drafod ei lwyddiant soniodd Shadek am gyfraniad ei gogydd, Mashuk Ali: "Dan ni'n hynod ffodus o gael cogydd sydd â dros ddwy flynedd ar hugain o brofiad o goginio bwyd Indiaidd,' meddai. Mae Shadek Ali yn ymwybodol iawn o leoliad ei fwyty ac o Gymreictod yr ardal. Mae o'n teimlo'n gryf ei bod yn bwysig cyflogi pobl leol ac yn falch iawn fod aelodau o'i staff yn ddwyieithog. Mae'n siarad 'dipyn bach' o Gymraeg ei hun ac yn hyderus y bydd yn hollol rhugl mewn tair blynedd. Pob lwc!
 |