BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Cofeb i'r milwyr a laddwydCofeb a milwr coll
Rhagfyr 2005
Chwilota
Mae'r llun hwn wedi achosi cryn benbleth i aelodau teulu sy'n hanu'n wreiddiol o Gwm y Glo, ac am yr eilwaith o fewn ychydig rifynnau o'r Eco dyma holi ynglŷn â gwybodaeth am drigolion y pentref hwnnw.
Yn ystod y mis a aeth heibio derbyniais wahoddiad i gartref Mrs Gwyneth Roberts, Cwm y Glo, a chael astudio dwy ddogfen a ddaeth i'w meddiant o Lerpwl. Cyfnither iddi o'r ddinas honno a ddarganfu'r dystysgrif a'r Hun wrth atgyweirio darlun a oedd yn ei chartref. Roedd y darlun yn wreiddiol ym meddiant nain a thaid Mrs Roberts, a fu'n byw yn Lerpwl ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae'r dystysgrif wedi ei chyflwyno gan y 'Society for the Encouragement of Arts Manufactures and Commerce', Llundain, i ŵr ifanc o'r enw Hugh Jones, a oedd yn 25 mlwydd oed pan dderbyniodd y dystysgrif ym mis Ebrill 1905 tra'n fyfyriwr mewn 'Municipal 'Technical Classes' yn Lerpwl.

Roedd wedi llwyddo i gael Gradd Ail Ddosbarth yn y 'Commercial Examination Advanced Stage'.

Roedd y dystysgrif, a'r llun gyferbyn, wedi eu defnyddio fel 'backing' ar gefn darlun. Mae'n amlwg fod y llun yn dyddio i'r blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a'r ddwy ddogfen wedi bod ynghudd ers tua 80 o flynyddoedd. Mae'n ymddangos fod cysylltiad rhyngddynt. Tybed a ddefnyddiwyd y ddwy ddogfen gan daid Mrs Roberts wrth sicrhau fod y darlun yn gorwedd yn wastad yn ei ffrâm?

Ond y cwestiwn na ellir ei ateb ar hyn o bryd yw pwy oedd Hugh Jones?

Mae'r llun o'r gofeb yn rhestru rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac y mae dau Hugh Jones wedi eu cofnodi arni. Roedd y mwyafrif o'r rhai sydd wedi eu rhestru ar y gofeb yn aelodau o'r Ffiwsilwyr Cymreig, ac nid yw'n anodd iawn darganfod mwy o wybodaeth amdanynt.

Mae cyfrol wedi ei chyhoeddi sy'n rhestru holl aelodau'r Ffiwsilwyr Cymreig a syrthiodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Hugh Jones, a laddwyd noswyl Nadolig 1915, yn enedigol o Gricieth. Roedd Hugh Jones a laddwyd ar y degfed o Chwefror 1917 yn aelod o'r Royal Naval Volunteer o Reserve, a'i uned oedd R.N.D. Bu'n rhaid chwilio ar safle gwe'r 'War Graves Commission' i ddarganfod mwy amdano, ond yn anffodus, nid yw'n cynnig atebion sy'n ei gysylltu â Chwm y Glo.

Lladdwyd Hugh Jones ar y Somme ac fe'i claddwyd ym Mynwent Filitaraidd Varennes, rhyw ddeuddeg milltir o ddinas Amiens. Mae 1,219 o filwyr Prydeinig wedi eu claddu yno. Yr unig wybodaeth ychwanegol a roddir am Hugh Jones yw enwau ei rieni, sef William ac Ellen Jones. Ni roddir gwybodaeth am ei gartref. Pan fu farw, roedd yn 37 mlwydd oed. Mae ei oedran felly, yn cyferbynnu â'r Hugh Jones a enillodd y dystysgrif yn Lerpwl yn 1905.

Ond erys y cwestiwn: a oedd cysylltiad rhwng nain neu daid Mrs Roberts a'r Hugh Jones hwn a laddwyd ar y Somme? A pham roedd tystysgrif iddo a llun o gofeb yn cynnwys ei enw, wedi eu cadw tu cefn i ddarlun ym meddiant y teulu yn Lerpwl?

Tybid i ddechrau fod yr Hugh Jones hwn yn frawd i daid neu i nain Mrs Roberts. Yn sicr, doedd o ddim yn frawd i'w nain. Elizabeth Jane Prichard oedd ei henw morwynol hi, ac yn ôl cyfrifiad 1901 roedd yn byw yn nhai Tanymarian, Cwm y Glo gyda'i thad, Morris (gŵr gweddw) a'i brawd, William. Ddeng mlynedd ynghynt, roedd ei mam, Sarah, yn fyw; a'i brawd, Morgan, hefyd yn byw gartref. Roedd y brodyr, William a Morgan, yn cael eu disgrifio fel prentisiaid gwneud llechi ysgrifennu. Dyna hefyd oedd gwaith Richard Jones, a oedd yn byw gyda'i fam weddw yn yr Aber, Cwm y Glo. Mae'n bosibl fod y tri bachgen yn gweithio gyda'i gilydd, ac mai felly y daeth Richard ac Elizabeth Jane yn gariadon, a phriodi yn Eglwys Llanrug ar 27 Medi 1901.

Catherine Jones oedd enw mam Richard (fe'i cofnodir ar gyfrifiad 1901 fel Richard Ll. Jones, ac yn ôl hanes teuluol galwai ei hun yn Richard Lloyd Jones). Dywed Mrs Roberts ei bod hi'n enwog am rwyfo, ac y byddai'n ennill rasys rhwyfo o Lyn Bogelyn i fyny i Lanberis ar hyd Llyn Padarn. Câi ei hadnabod fel Catrin Cwper/Cooper.

Pan symudodd y teulu i Lerpwl ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roeddent yn aelodau o Eglwys Sant Deiniol, Upper Parliament Street. Tybed ai cofeb i aelodau'r eglwys honno yw'r un yn y llun?

Byddai'n ddiddorol cael sylwadau unrhyw un o ddarllenwyr y golofn hon sydd â chysylltiadau â Lerpwl. Yn y cyfamser, bydd y chwilio'n parhau.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy