| Bwriad y gwasanaeth oedd nodi hanner can mlynedd ers diwedd yr argyfwng milwrol ar yr ynys. Dadorchuddiwyd Cofeb ac arni enwau 371 o filwyr o wledydd Prydain a laddwyd ar wasanaeth ar yr ynys rhwng 1955 a 1959. Dechreuodd Mr Owen ei wasanaeth milwrol gyda lluoedd NATO yn yr Almaen, cyn gwasanaethu yng Nghyprus (1957-58) a chyfnod byr yn cadw'r ffin yn Tripoli.
 |