BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Dilys BaylisLlyfr newydd Dilys, 95
Chwefror 2008
Cadw siop ym Meirionfa, Llanberis, fu Mrs Dilys Baylis am flynyddoedd cyn iddi ymddeol.

Trwy'r holl flynyddoedd hynny bu'n brysur yn ysgrifennu. Roedd ei henw'n gyfarwydd i lawer trwy'r llythyrau cyson ar wahanol bynciau a anfonai at bapurau newydd a chylchgronau.

Ond nid llythyru yn unig a wnai, gan iddi hefyd gyfansoddi nifer helaeth o gerddi ac emynau. Y mwyaf cyfarwydd ohonynt, mae'n debyg, yw'r emyn 'Cofiaf amdanat ti' y cyfansoddwyd ton ar ei gyfer gan ei brawd, y diweddar Edwin Lloyd Jones, ac a gyhoeddwyd yn yr Atodiad i'r Llyfr Emynau a Thonau yn 1985.

Dros y blynyddoedd bu Mrs Baylis yn rhannu rhai o'r cerddi hyn a'i theulu a'i chyfeillion mewn llythyr, ar gerdyn Nadolig neu ar daflenni deniadol. Ond, erbyn hyn, mae llawer ohonynt i'w cael mewn cyfrol a gyhoeddwyd ganddi ddechrau'r flwyddyn newydd.

Bric-a-Brac yw teitl y gyfrol, sy'n cynnwys mwy na 70 o gerddi ynghyd a dwy ysgrif fer. Emynau a cherddi crefyddol yw'r mwyafrif ohonynt, yn ffrwyth myfyrdod ysbrydol ac ymchwilgar ac yn dystiolaeth i ffydd gadarn Mrs Baylis yn ei Harglwydd a'i Duw.

Ceir yn y gyfrol hefyd rai cerddi mwy personol, yn cynnwys rhai a gyfansoddwyd i gyfarch cyfeillion ar achlysuron arbennig.

Mae yn y gyfrol nifer o gerddi Saesneg, yn cynnwys cyfieithiadau graenus o ambell emyn Cymraeg cyfarwydd, fel y cyfieithiad o emyn mawr Lewis Valentine, 'Dros Gymru'n gwlad'.

Nodir yn y gyfrol i Mrs Baylis gyfieithu'r emyn hwn ar 16 Chwefror 1993. Roedd y rhaglen deledu Songs of Praise yn cael ei recordio yn Llanberis ac emyn Lewis Valentine oedd un o'r emynau. Ar y funud olaf roedd y cynhyrchwyr mewn panic, wedi sylweddoli nad oedd ganddynt gyfieithiad Saesneg o'r geiriau i'w gosod fel is-deitlau ar y sgrin tra cenid yr emyn yn Gymraeg.

Felly gofynnwyd i Mrs Baylis ei gyfieithu, ac er mawr syndod a rhyddhad i'r criw cynhyrchu, roedd y cyfieithiad yn barod o fewn yr awr.

Llongyfarchiadau mawr i Mrs Baylis, sydd erbyn hyn yn cartrefu ym Mhlas Pengwaith yn Llanberis, ar gyfrol y bydd llu o'i chydnabod, gobeithio, yn ei phrynu a'i mwynhau.

A bydd unrhyw un nad yw'n ei hadnabod ond a fydd yn darllen y gyfrol hefyd yn gwerthfawrogi'r cerddi, a thrwyddynt yn dod i werthfawrogi ei dawn ac i ymdeimlo a dyfnder ei hargyhoeddiadau.

Nid pob dydd, yn sicr, y daw cyfrol newydd o'r wasg gan awdur 95 mlwydd oed!

Cyhoeddwyd y gyfrol gan Wasg y Bwthyn, ac mae ar werth am £5. Bydd unrhyw elw o werthiant y llyfr yn cael ei roi at gynllun Efe sy'n paratoi ar gyfer cael gweithiwr Cristnogol ieuenctid i'r fro, a dymunaf ddiolch am hynny ar ran y pwyllgor. Ceir copiau yn yr Amgueddfa Lechi a Mynydd Gwefru yn Llanberis; ac yn siop Na-Nog, Caernarfon.
John Pritchard.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy