| Pryd tybed y dechreuwyd sefydlu canghennau o'r Urdd yn y fro hon?
Roedd tua 700 o aelodau yn perthyn i'r mudiad pan sefydlwyd ef yn 1922, ond mae dros 50,000 o aelodau erbyn heddiw.
Mae'r llun o Gangen Llanberis ym meddiant Miss Dwynwen Roberts (Pritchard gynt), Frondeg, Llanberis, a diolch i Eifion Roberts am gofnodi'r enwau ac anfon y wybodaeth ymlaen i mi.
Tybir mai llun yw hwn o aelodau gwreiddiol Cangen Llanberis, ac iddi gael ei sefydlu tua 1926. Tynnwyd y llun ar y darn tir sydd ar y chwith, ychydig yn uwch na Olgra Terrace, ac yr oedd y gangen yn cyfarfod yn Festri Capel Preswylfa. Credir fod o leiaf bedwar o'r aelodau gwreiddiol yn fyw heddiw.
Yn hytrach na rhoi'r enwau yn y llun, aeth Eifion a Mrs Roberts ati i geisio rhoi eu cysylltiadau â phobl eraill yn Llanberis, er mwyn i'r genhedlaeth bresennol geisio eu hadnabod.
Ceir rhestr o'r bobl hynny sydd yn y llun yn rhifyn mis Mai o Eco'r Wyddfa.
 |