BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Wyddfa dan eiraYr eira olaf
Chwefror 2007
Llun o Lyn Padarn wedi rhewi'n gorn yn 1895 oedd ar dudalen flaen rhifyn Nadolig yr Eco - llun oedd yn gwneud inni ryfeddu a rhamantu wrth feddwl ei bod yn annhebygol iawn y byddem ni'n gweld golygfa debyg yn ystod ein hoes ni.
Anodd yw credu felly fod tebygolrwydd y bydd y llun hwn o'r Wyddfa dan eira'n peri'r un anghrediniaeth mewn llai nag ugain mlynedd, yn ôl adroddiadau diweddar yn y wasg.

Mae gwaith ymchwil gan Brifysgol Bangor a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn dangos bod lefelau eira wedi gostwng tua 35% dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae'r llinell eira presennol tua 300 medr yn unig o'r cop a wrth i dymheredd y gwanwyn godi 2.5 Gradd C ar Yr Wyddfa dros y 30 mlynedd diwethaf.

Llyn Padarn wedi rhewi Mae nifer o ffactorau'n gyfrifol am y newid sylweddol hwn yn ein hinsawdd -alloriannau carbon monocsid a carbon deuocsid, llygredd a sbwriel gwenwynig.

Mae'n sefyllfa ddyrys iawn ond mi allwn ni wneud rhywbeth i geisio lleddfu'r broblem, yn ôl Gwenllian Dafydd, Swyddog Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd: 'Mae pob un cyngor yn derbyn targedau ailgylchu'n flynyddol er mwyn lleihau'r maint o wastraff a gynhyrchir bob blwyddyn. Yma yng Ngwynedd, mae'n rhaid inni gyrraedd y nod o ailgylchu 40% o'n gwastraff erbyn 2009-2010, sy'n ffigwr uchelgeisiol iawn o gofio mai dim ond 25% o'n sbwriel 'dan ni'n ailgylchu ar hyn o bryd.'

Mae pob un ohonom sy'n darllen papur newydd neu'n gwylio'r teledu yn ymwybodol o ddifrifoldeb cynhesu byd eang ond faint ohonom sy'n poeni o ddifri am yr effaith andwyol mae'n ffordd ni o fyw yn ei gael ar ein hamgylchedd? Faint ohonom sy'n ailgylchu'n rheolaidd? Mae gan sawl cartref yng Ngwynedd foes glas ar gyfer ailgylchu papur gwyn, tuniau, gwydr, dillad a sgidia ac mae croeso i bobl ffonio'r Cyngor os ydyn nhw angen mwy o'r bocsys hyn.

Yn ôl Gwenllian Dafydd: 'Mae llawer o bobl yn gofyn inni a oes gwasanaeth ailgylchu plastig ar gael yn yr ardal, a'n gobaith ni yw y bydd hynny'n bosib o fewn y misoedd nesaf. Y broblem fwyaf efo ailgylchu plastig yw ei fod yn cymryd llawer o le ond nid yw'n pwyso llawer; ond, wedi cynllun peilot llwyddiannus iawn yn Llanrug rydan ni'n ffyddiog y bydd gweddill y sir yn elwa yn fuan. Yn y cyfamser, mae posib ichi gludo'ch gwastraff plastig i un o'n canolfannau ailgylchu. Yr un agosaf yw parc diwydiannol Llandegai, Bangor.'

Cynllun newydd arall sydd ar y gweill yw gosod biniau olwyn brown mewn 8,000 o gartrefi yn Arfon er mwyn ailgylchu gwastraff gardd - chwyn, gwair a hen blanhigion - a fydd yn cael eu casglu bob pythefnos. Os ydach chi'n arddwyr brwdfrydig mae modd ichi gael biniau compost yn rhad ac am ddim gan y cyngor - er mwyn ailgylchu'ch gwastraff gardd a'ch gwastraff cegin.

Yn ôl Gwenllian: 'Drwy gynnig nifer o wasanaethau ailgylchu amrywiol, ein gobaith yw y bydd Gwynedd yn sir werdd iawn erbyn 2009/10, a gyda'n canolfan newydd 'Caergylchu' yn agor yng Nghibyn, Caernarfon, cyn bo hir dylai'r dyletswydd sydd ar bob un ohonom ni i ailgylchu fod yn haws i'w weithredu.'

O fewn yr wythnosau nesaf NI FYDD modd gadael mwy nag un llond bin olwynion neu dair sach du o sbwriel ar gyfer y lori sbwriel, mewn ymgais i geisio lleihau maint y sbwriel rydan ni'n cael gwared ohono'n wythnosol. Felly bydd yn RHAID i bawb ailgylchu.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy