Roedd y steeplejack enwog ar daith i wneud rhaglen deledu newydd o'r enw MADE IN BRITAIN. Roedd yn trafaelio ar injan dracsiwn Aveling and Paster yn dyddio o 1918, ac yn sicr fe ddenodd sylw yn ystod ei ymweliad. "Roedd pawb, yn cynnwys staff ac ymwelwyr, wrth eu boddau yn gweld Mr Dibnah yma," dywedodd Julie Williams, Swyddog Marchnata. "Mae o wedi bod i'r Amgueddfa sawl tro o'r blaen ac wrth ei fodd yma. Yn y gorffennol mae wedi rhoi tro llaw ar y hollti a naddu ond y tro hwn roedd yn cerdded o gwmpas y gweithdai yn edrych ar y gwahanol beiriannau sydd gyno ni ar y safle." Bydd y rhaglen MADE IN BRITAIN, allan yn y flwyddyn newydd. Am ragor o fanylion cysylltwch â Julie Williams ar 01286870630
 |