| Pum bwrdd oedd ganddyn nhw pan agoron nhw, 'nol yn 1979, a'r rheiny efo lliain bwrdd check a photeli gwin yn dal canhwyllau, fel oedd yn ffasiynol ar y pryd.
Pobl leol oedd y cwsmeriaid cyntaf ond buan iawn y tyfodd enw da'r busnes dros y blynyddoedd, ac roedd ennill Tŷ Bwyta'r flwyddyn yn 1987 yn hwb enfawr - yn ogystal â chael eu cynnwys yn rhai o brif lyfrau Bwyd Da Prydain.
Erbyn y blynyddoedd diwethaf, deuai pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt draw i'r Bistro i flasu bwyd enwog Nerys! Ymysg y rhai sydd wedi cael eu bwydo mae neb llai na'r Tywysog Charles a John Major!
Mae'n amhosib dweud faint o bartïon a phriodasau ac ati y maen nhw wedi coginio ar eu cyfer dros y blynyddoedd, yn cynnwys cinio'r pensiynwyr a'r boreau coffi di-ri sydd wedi codi miloedd o bunnoedd tuag at elusennau lleol dros y blynyddoedd - ffaith sy'n brawf pendant o waith tîm llwyddiannus iawn.
"Dan ni wedi cydweithio'n dda dros y blynyddoedd, a'r ddau ohonon ni'n gwybod ein lle yn iawn. Mi ddysg'is i'n ddigon buan mod i'n fwy o "hindrans" yn y gegin nac o werth!' meddai Danny, er mai fo oedd yr arbenigwr pan ddeuai unrhyw offer technolegol newydd i'r gegin.
"Sgen Nerys ddim llawer o glem efo technoleg - felly fi oedd yn delio hefo unrhyw offer technegol. Ond yn yr holl flynyddoedd o goginio miloedd o brydau bwyd dwi'm yn meddwl iddi hi erioed losgi bwyd neb - llosgi hi ei hun, do - ond chawson ni erioed noson pan ddifethwyd y bwyd!'
Mae gan y ddau deimladau cymysg ynglŷn a gadael y busnes. Bydd ganddynt hiraeth
am eu cwsmeriaid a'u ffrindiau ond maen nhw'n edrych ymlaen at antur newydd hefyd - sef teithio Ewrop yn y garafan! Mi fyddan nhw'n teithio drwy Gymru a Lloegr cyn mynd i Morbegno yn yr Eidal ar gyfer y ras Trofeo Vanoni ddiwedd Hydref - gan fod Danny yn Gadeirydd pwyllgor gefeillio Llanberis a'r dref honno. I Sbaen wedyn dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd cyn cyrraedd adref erbyn yr ha nesa! 'Mae'n amser cyffrous iawn,' meddai Nerys. 'Er, dwi'n meddwl mai'r her fwyaf imi fydd dysgu coginio i ddau!'
Felly pob lwc i'r ddau ar eu taith ac, ar ran Eco'r Wyddfa - diolch iddynt am gefnogi'r papur dros y blynyddoedd gyda'u hysbysebu cyson.
 |