BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Eleri a'i phlant gyda Gavin Carr wedi iddi lanio ar faes awyr TilstockNeidio o'r Nefoedd
Tachwedd 2004
Eleni, fe benderfynodd Eleri Elizabeth Jones o Foduan wneud naid barasiwt. Yma mae hi'n egluro pam.
Bûm yn gweithio fel gofalydd cymuned ym Mhen Llŷn am tua blwyddyn a hanner ond er fy mod yn mwynhau'r gwaith yn angerddol yr oedd gennyf ddyhead am gael helpu pobl oedd yn waelach ac o dan fwy o anfanteision.

Pan glywais fod cyfle i ymuno gyda thîm arbennig fel cynorthwy-ydd gofal iechyd, neidiais amdano a bûm y ddigon lwcus i gael cyfweliad. Dyna'r naid gyntaf.

Yr oeddwn yn nerfus iawn ar fore'r cyfweliad ond yr oedd rhyw lais bach yn fy mhen yn dweud: 'Fyddi di'n iawn, sdi.' Yr oeddwn yn berffaith siŵr mai hon oedd y swydd i mi, gan fy mod wedi colli dau daid a fu'n dioddef o ganser. Yn y cyfweliad llwyddais i ateb bob cwestiwn yn gywir a cheisiais ymlacio.

Do, mi ges y swydd, ond yr oedd yn anodd troi cefn ar yr henoed y bûm yn gofalu amdanynt fel gofalydd gyda Chyngor Gwynedd. Disgynnodd ambell ddeigryn a bu gwasgu llaw. Eraill yn dweud yn ddiffuant iawn, 'Cofia ddwad draw am baned a sgwrs.' Rwy'n dal i alw heibio i rai ohonynt o hyd: mae rhai yn dal yn eu cartrefi a'r lleill mewn cartrefi henoed.

Pan gychwynnais ar fy swydd newydd cefais y fraint o weithio gyda hogyn 25 oed o Lanberis, hogyn hoffus sydd, er gwaethaf ei anabledd, yn llawn hiwmor. Mae Gavin Carr yn dioddef o'r salwch cas multiple sclerosis. Wrth i'r wythnosau fynd heibio a minnau'n dwad i adnabod Gavin yn well bob dydd, dechreuais ei holi beth fyddai wedi hoffi ei wneud cyn mynd yn sâl? Dywedodd y byddai wedi hoffi neidio allan o awyren. Wel, a finnau hefyd, meddwn wrtho.

Yr oedd fy mhen-blwydd yn 30 yn nesáu ac yr oeddwn wedi addo i mi fy hun y byddwn yn gwneud rhywbeth anghyffredin. Meddyliais am gael tatŵ ond mae arna' i ofn nodwyddau, felly penderfynais dderbyn her Gavin a mynd am naid barasiwt noddedig, er budd yr M.S.

Wedi dweud wrth bawb beth oedd fy mwriad, doedd dim troi'n ô1. Rhai yn gofyn, 'Wyt ti'n gall, dwad?' Lleill yn curo fy nghefn ac yn dweud, 'Go dda ti.' Teimlad braf yw gwybod eich bod am wneud rhywbeth fydd yn rhoi pleser i chi eich hun ac o fudd mawr i gymdeithas fel yr M.S.

Felly dyna'r penderfynu wedi ei wneud, torri coes neu beidio. Cefais bob cefnogaeth gan fy ngŵr, Lewis, a'r plant, Caryl a Cai. A bu teulu a ffrindiau agos yn gefnogol iawn. Ond roedd cael hyd i noddwyr yn dipyn o waith.

Wedi cysylltu yn gyntaf gyda Chymdeithas yr M.S., rhaid oedd ffonio busnesau lleol ac ysgrifennu llythyrau. Cefais ymateb da gan fusnesau, unigolion a chynghorau tref a chymuned ym Mhen Llŷn a chodwyd swm da drwy bacio neges ar ddydd Sadwrn yn Safeways, Caernarfon: diolch i'r cwmni am ei gefnogaeth.

Dros yr wythnosau y bûm wrthi'n paratoi yr oeddwn yn cadw Gavin yn y pictiwr, ac roedd hynny'n creu diddordeb ynddo ac yn gwneud iddo deimlo ei fod ef yn rhan o'r fenter. Bu ei deulu a'i gyfeillion yn Llanberis yn gefnogol iawn i mi hefyd.

Diwrnod bythgofiadwy oedd dydd Gwener, Ebrill 2il, pan euthum gyda'r teulu i faes awyr Tilstock ger Yr Amwythig a chael hanner awr o hyfforddiant gan Chris Gilmore cyn mentro i'r awyren.

Dringo wedyn 10,000 o droedfeddi uwchben y maes awyr ac yn wir uwchben y cymylau, cyn fy mod i a'r hyfforddwr yn neidio allan i'r gwagle. Cyn i'r parasiwt agor yr oeddem yn teithio 140 milltir yr awr drwy'r cymylau tua'r ddaear profiad anhygoel a dweud y lleiaf.

Braf oedd gweld y teulu fel smotiau bach du ar y lanfa yn disgwyl amdanaf. Bu'n brofiad gwerth chweil a llwyddais i godi £2,500 tuag at yr M.S. Yr oeddwn wedi addo cyfraniad bach i Gavin, er mwyn iddo allu prynu rhyw gelficyn i wneud bywyd yn haws iddo, a chedwais yr addewid hwnnw hefyd.

Heb syniad Gavin, go brin y byddwn i wedi meddwl am neidio o awyren, felly diolchaf iddo am fy ysgogi i fentro. Mentro ar un diwrnod yn unig wnes i a mwynhau'r her. Y mae pob diwrnod yn her i bobl fel Gavin sydd yn gaeth i'w cadeiriau olwyn, ac yr wyf yn falch fy mod i ac eraill o dîm y Gwasanaeth Gofal Arbennig yn gallu cynnig rhywfaint o gariad a chysur iddynt.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy