BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Llun o'r botel ar eBayAer Eryri ar werth ar y we
Chwefror 2005
Mae aer Bro'r Eco yn cael ei farchnata a'i werthu mewn ocsiwn byd-eang ar y we.
Wythnos diwethaf roedd 'Aer Clir Eryri' - potel wedi ei lenwi efo aer cefn gwlad Eryri - ar wefan eBay. Mae'r wefan yn hynod o boblogaidd ar draws y byd gyda gwerthwyr yn rhoi pob mathau o eitemau ar y safle - o lyfrau, recordiau a cheir i bethau mwy anghyffredin.

Gall unrhyw un fynd ar y safle i weld beth sydd ar werth, lle mae disgrifiad a llu o'r eitem wedi ei osod. Mae wedyn y bosib 'bidio' am yr eitem yn union fel mewn ocsiwn arferol - a'r pris uchaf sy'n cael yr eitem.

Ond ychydig o ddiddordeb oedd yn 'Aer Clir Eryri'. Roedd gwerthwr yr aer - sy'n dod o ogledd Cymru - wedi rhoi'r botel ar werth ar 10 Ionawr, gan gynnig potelu'r aer y diwrnod oedd yn cael ei brynu, a'i yrru i unrhyw le yn y byd.

Roedd yr eitem ar werth am 10 diwrnod, ond dim ond un bid gafodd ei gynnig - am 99c. O edrych ar y safle gwe mae'n ymddangos mai gŵr o'r enw Robin Walmsley wnaeth brynu'r eitem ond does dim manylion ynglŷn â phwy ydyw nac o le mae'n dod.

Ond y Post Brenhinol sydd wir ar ei ennill, gan fod y prynwr yn gorfod talu £2 ar gyfer dosbarthu'r eitem os yn byw ym Mhrydain, neu £10.50 os yn byw yn America.

Efallai bod y gwerthwr - kfpromos yw'r enw sy'n cael ei roi ar y safle gwe - wedi gobeithio gwneud arian allan o'r fenter fel mae rhai wedi'i wneud eisoes drwy eBay. Rai blynyddoedd yn ôl gwerthwyd jet preifat ar y safle am £1.87m - ac fe brynwyd tref Briedgeville, California, am £l.lm.

Dyma sut oedd 'Aer Clir Eryri' yn cae ei ddisgrifio ar y safle: "Fresh Air caught on the breeze in the heart of the Welsh Countryside. AER CLIR ERYRI."


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy