| Fe enillodd nifer o ralîs ceir ynghyd â bod yn gystadleuydd y flwyddyn, cystadleuydd gorau ymysg y merched, cystadleuydd gorau mewn rali ffyrdd, a hi hefyd enillodd y wobr o fod yr orau dros yr holl adrannau. Yn ddiweddar bu Gwawr yn llwyddiannus ym Mhencampwriaethau Clybiau Ceir y gogledd orllewin - sydd yn cynnwys Cymdeithas Clybiau o ogledd Cymru a hefyd gogledd orllewin Lloegr. Yn y pencampwriaethau yma enillodd Gwawr wobr y Rali Geir Hanesyddol, y llywiwr ifanc (navigator) gorau, y llywiwr merched gorau, a hi hefyd enillodd yr anrhydedd o fod yr orau dros yr holl adrannau gwahanol i ferched a phobl ifanc. Dechreuodd Gwawr lywio i'w thad, Noel Hughes, Cae Gadlys, Llanberis, pan oedd yn bedair ar ddeg oed. Erbyn hyn mae wedi bod yn llywio i yrwyr ceir amlycaf y wlad, mewn cystadlaethau yng Nghymru ac yn Lloegr. Uchafbwynt ei gyrfa llynedd oedd dod yn drydydd yn Rali Ryngwladol Ynys Manaw, yn y dosbarth Ford Ka. Bydd Rali Ryngwladol Cymru wedi ei chanoli yn ardal Dolgellau eleni a bydd Gwawr, sy'n fyfyrwraig yn Aberystwyth, yn falch o dderbyn nawdd gan unigolion, busnesau a chymdeithasau, er mwyn ei galluogi i gymryd rhan yn y Rali hon, ac amryw eraill ledled Prydain. Mae si ar led y bydd Gwawr yn derbyn cynnig i fod yn llywiwr i un o'r gyrwyr mwyaf adnabyddus yn y maes hwn yn y dyfodol agos. Dywedodd Gwawr ei bod angen cefnogaeth a nawdd tra'i bod yn fyfyriwr, er mwyn medru manteisio ar y cynigion sy'n dod i'w rhan. Gellir cysylltu â Gwawr drwy ei thad. Pob lwc i'r ferch ifanc yma yn y dyfodol.
 |