Dyna'r darlun o bentre' Cymraeg yn Deiniolen: Pentre Ni, cyfres a ddechreuodd ar S4C ar Fehefin 10fed. Mae'n stori am y bywyd newydd sydd wedi dod i'r hen bentre' chwarel wrth droed yr Wyddfa.Trwy lygaid pobol Deiniolen ei hun y gwelwn ni'r bywyd hwnnw - y cymeriadau, yr ysgol, y band, y clwb pêl-droed, y ffatri.
Er bod y chwareli wedi cau, mae'r gyfres yn llawn gobaith yn dangos fel y mae ffatri offer dringo wedi dod a chyfleoedd newydd ac fel y mae golwg y pentre wedi cael ei weddnewid.
'Ar ôl i Chwarel Dinorwig gau yn 1969 gwelwyd dirywiad graddol ac roedd llawer yn ddigon parod i ladd ar y pentref,' meddai Emyr Llewelyn Gruffudd, cynhyrchydd y gyfres gan Cwmni Da, ac un o fechgyn y pentre' ei hun.
'Erbyn hyn mae yna fuddsoddiad ariannol sylweddol wedi digwydd ac mae yna adferiad ar droed. Ond er fod yr economi wedi newid, mae'r bobol 'run fath.
'Mae Deiniolen yn agos iawn at fy nghalon ac mi ges i lot o hwyl yn gwneud y rhaglenni yma, yn ogystal â thynnu coes hefyd!'
Mae ffatri ISC (International Safety Components) yn ganolog i'r gyfres. Mae tua 80 o bobol yn gweithio ar y safle yn Neiniolen, yn cynhyrchu offer diogelwch ar gyfer dringwyr a'r diwydiant adeiladu. Cawn ddod i nabod rhai o weithwyr y ffatri - Alan Wyn, Edwina Thomas, Julie Cyster ac eraill. Mae nhw'n gweithio'n galed ond mae yna gellwair a phryfocio yn digwydd hefyd.
Mae'r criw yn gallu chwarae'n galed hefyd - boed ar y cae pêl-droed, yn y band neu yn y tîm dartiau. Cawn ymuno a rhai o genod darts y Bull wrth iddyn nhw chwarae yn erbyn tîm o Gaernarfon. Cawn wylio rhwystredigaeth rheolwr y tim pêl-droed wrth iddyn nhw geisio dringo o waelod y gynghrair. 'Pwy fasa'n manager?' meddai Barry Thomas!
Cawn weld y ferch sy'n arwain adran blant Band Arian enwog Deiniolen - mae'r aelodau rhwng 7 a 70 oed ac, ar un amser, roedd mam, tad, taid ac ewythr Jenny Lynne yn aelodau. Mae'r rhaglen yn ymuno â'r band mewn cyngerdd ac yn eu parti Nadolig... sy'n digwydd ym mis Ebrill! 'Mae dyfodol y band yn sicr,' meddai'r Ysgrifennydd, Meirion Jones. 'Mae yna gewri ifanc yn ymuno pob blwyddyn.'
Mae yna gewri ifanc eraill hefyd - fel Stephen Lee, 12 oed, sy'n prysur wneud enw iddo'i hun fel saethwr colomenod clai; Mathew Guy sy'n dysgu bod yn chef yng ngwesty moethus Seiont Manor, a phlant Ysgol Gynradd Gwaun Gynfi sy'n mynd ar drip i Sŵ Caer i chwilio am y mwncïod a'r giraff.
Un o'r pentrefwyr, Gloria Thomas, Trysorydd y Tîm Pêl-droed, sy'n crynhoi'r cwbl am y gyfres a'r pentre': 'Dwi wrth fy modd yma. Does yna ddim digon o oriau mewn diwrnod i mi yma.'
Ymunwch â phobl Deiniolen bob nos Iau am naw o'r gloch o Fehefin 10fed ymlaen.