BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Y Parch nan Powell-DaviesGwobrwyo gweinidog
Ionawr 2010
Mae gweinidog o'r Wyddgrug (cynt Waunfawr) wedi derbyn gwobr arbennig am helpu troseddwyr Cymraeg eu hiaith i ail-ymgartrefu yn eu cymunedau.

Cafodd y Barch Nan Powell¬Davies (Tan-y-Fron, Y Waunfawr gynt) Wobr Cymeradwyaeth Arbennig am fynd ymhell tu hwnt i'r gofyn wrth helpu i intigreiddio troseddwyr yn ô1 i'r gymuned drwy gyfrwng y Gymraeg yn noson wobrwyo Gwirfoddoli a Chyfiawnder Cymunedol 2009 yn Llandudno yn ddiweddar.

Mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru, yn cydnabod gwaith ac ymroddiad eithriadol gan bobl sy'n gweithio yng ngogledd Cymru i leihau trosedd a gwella ansawdd bywyd cymunedau lleol.

Y Parchedig Powell-Davies yw cyd-gordiwr BARA, asiantaeth gefnogi ac ailsefydlu sy'n gweithio gyda throseddwyr o ogledd Cymru wedi iddynt gael eu rhyddhau o garchar. Yn weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae hi hefyd yn treulio deuddydd yr wythnos yn gweithio fel caplan yng ngharchar Altcourse, Lerpwl.

Dywedodd Nan, 'Dwi'n hynod o falch 'mod i wedi cael y wobr yma achos dwi'n teimlo ei fod o yn anrhydedd i'r eglwys. Gwaith yr eglwys ydi hwn a dwi'n teimlo bod yr eglwys wedi cael ei gweld yn bod ar waith mewn byd sy'n brifo.

'Ond y llawenydd mwyaf i fi ar y noson oedd gweld Matthew Thomas yn ennill gwobr - gwirfoddolwr sy'n gyn-droseddwr.

'Fuodd o yn Altcourse ac roeddwn i'n gaplan arno fo am ddwy flynedd. Dwi'n llawen dros ben fod Matthew wedi gallu newid ei fywyd ac wedi cael y wobr am ei waith.'

Ychwanegodd Ed Beltrami, Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder a Troseddol Gogledd Cymru, 'Fel Asiantaethau Cyfiawnder Cymdeithasol, mae'n bwysig i amlygu y berthynas effeithiol sydd rhyngom yng ngogledd Cymru.

'Mae'r gwobrau yma'n pwysleisio ein bod yn cymryd camau enfawr mewn ymrwymiadau cyfiawnder troseddol i ddatblygu partneriaethau sy'n dod a'r cyhoedd, y sector breifat a'r sector wirfoddol at ei gilydd. Mae nhw'n glod gwirioneddol i bawb sy'n ymwneud a'r peth.'

Mae tua un o bob tri carcharor yng ngharchar Altcourse, Lerpwl, yn dod yn wreiddiol o ogledd Cymru. Mae BARA yn cefnogi cyn-¬droseddwyr wrth iddynt geisio ail-ymgartrefu yn eu cymunedau yng ngogledd Cymru, gan gynnig cymorth gyda phroblemau fel canfod llety neu ddelio gyda chamddefnydd alcohol neu gyffuriau eraill, yn ogystal a rhoi anogaeth gyda gwaith, addysg a hamdden.

Mae gwirfoddolwyr BARA hefyd yn cefnogi teuluoedd y troseddwyr wrth iddynt ddod i dermau ag absenoldeb gŵr, mab neu dad, ac yna yn eu helpu i addasu wedi iddo gael ei ryddhau.

Fe'i noddir yn bennaf gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, ymysg eraill.

Gwirfoddolwyr o ardal Caernarfon sy'n gweithio gyda BARA ar hyn o bryd ond bydd BARA Wrecsam hefyd yn dechrau gweithredu cyn bo hir.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy