BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Gareth William Jones gyda Math Roberts a James Hancoch-EvansCaru nodyn
Rhagfyr 2008
Cafwyd cyfle i wrando ar bianydd ifanc dawnus ar noson lansio llyfr newydd.
Nos Fercher, 12 Tachwedd, ac roedd neuadd Ysgol Rhydypennau, ger Aberystwyth, yn diasbedain gan seiniau miwsig piano.

A beth sydd a wnelo hynny a bro'r 'Eco'? Wel, darllenwch ymlaen.

Pianydd ifanc dawnus dros ben oedd wrth yr offeryn. Lansio Caru Nodyn, nofel newydd Gareth William Jones, oedd yr achlysur.

Penderfynwyd lansio'r nofel yng nghyfarfod Adran yr Urdd yn yr ysgol am mai ar gyfer plant o wyth i un ar ddeg . oed y mae hi wedi'i hysgrifennu.

Yn hytrach na chanolbwyntio'n llwyr ar y llyfr ei hun, fodd bynnag, trowyd yr achlysur yn ddathliad o'r piano.

Hanes merch fach o'r enw Shauna yw'r nofel, sydd yn gorfod mynd i gael gwersi piano bob wythnos ac sydd yn eu casáu nhw, ac yn casáu ymarfer hyd yn oed yn fwy. Yr unig air y gallai hi feddwl amdano i fynegi cymaint roedd hi'n casáu'r holl beth oedd ychafiofnadwyaethus'.

Yn ei gyflwyniad i'r plant esboniodd yr awdur ei fod yn gwybod yn iawn am y profiad hwnnw gan ei fod yntau, pan yn blentyn, wedi bod yn amharod i ufuddhau a cheisio meistroli'r nodau du a gwyn. Yn unol a phroffwydoliaeth ei fam bu'n edifar ganddo.

Ond bu Shauna'n fwy ffodus na'r awdur. Un diwrnod daeth Nodyn, cath ddu a gwyn ei hathrawes biano, yn rhan o'i bywyd a digwyddodd pethau rhyfedd iawn yn sgil hynny.

Heb ddatgelu unrhyw gyfrinach, erbyn diwedd y stori galli Shauna chwarae'r Noctwrn Rhif 2 yn E Fflat gan Frederic Chopin.

Wrth drefnu'r cyfarfod lansio, cafodd yr awdur y syniad y byddai'n beth da cael plentyn tua'r un oed a darllenwyr y nofel i chwarae'r union Noctwrn honno yno.

Ond ble roedd dechrau chwilio? Barn arbenigwyr dysgu cerdd oedd y byddai'n orchwyl amhosibl. Daliwyd ati fodd bynnag ac, o'r diwedd, daethpwyd o hyd i bianydd ifanc o'r enw Math Roberts, disgybl yn Ysgol Gynradd Llanrug.

Braint a chyfaredd i bawb a oedd yn y cyfarfod, yn oedolion a phlant, oedd clywed Math, ag yntau'n ddim mwy na naw mlwydd oed, yn rhoi datganiad hyfedrus a sensitif o'r gwaith anodd hwn, a hynny gyda phurdeb a glendid diymffrost. Bu'n wefr yn wir.

A chafodd cynulleidfa yn Eisteddfod Bentref Llanrug y cyfle i wrando ar Math yn perfformio'r Noctwrn yno hefyd - a hynny ar y cof, heb ddefnydd copi o gwbl. Llongyfarchiadau mawr i ti Math.

Mae'r 'Eco' yn ddiolchgar i bapur bro 'Tincer' am anfon y stori a'r llun o'r achlysur.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy