BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Arweinydd y band - Gavin SaynorBand Llanrug
20 Rhagfyr 2003
Mae dilyn y band yn golygu ymroddiad aruthrol, cyfeillgarwch mawr, cythraul canu, siom a llawenydd dibendraw.
Mae hyn i gyd yn cael ei ddangos mewn rhaglen deledu arbennig sydd wedi ei gwneud am Seindorf Arian Llanrug.

Bu'r cynhyrchydd teledu, Gwenan Pennant Thomas yn dilyn y band ar ei daith i frig byd y bandiau yn dilyn blynyddoedd o siom a cholli.

"Am flynyddoedd maith mi fuo'r band yn colli ond gydag arweinydd newydd, Gavin Saynor wrth y llyw a'r cadeirydd ifanc, Berwyn Owen, yn llawn brwdfrydedd mi roeddan ni yn dilyn band oedd i ffordd i fyny!" meddai Gwenan sy'n gynhyrchydd gyda BBC Cymru ym Mangor.

Does dim amheuaeth am bwysigrwydd y band i drigolion Llanrug.

"Ma'r holl bentra'n dod at i gilydd i hel pres i'r band fynd i gystadlu yn Dundee. Y pwyllgor merched yn gwerthu cacennau ar y Maes yng Nghaernarfon a'r aelod ieuengaf, Aled sy'n 14 oed, yn golchi ceir yn y pentref i'r band," meddai.

Bu Gwenan yn dyst hefyd i wefr y cystadlu, y paratoi ymlaen llaw, y perfformiadau ar lwyfan a hyd yn oed y siom o golli ddwywaith ar ôl ei gilydd a hynny un tro i'r arch-elyn, Band Deiniolen - pentref sydd ond tafliad carreg go lew o Lanrug.

Ond er gwaethaf pob colli mae yna fôr o hiwmor a ffraethineb hefyd wrth i'r band ddal ati er gwaethaf pob siom a dod o hyd i lwyddiant ym Mhencampwriaeth Bandiau Pontins fis Hydref 2003.

Bydd Y Band gan BBC Cymru ar S4C, ddydd Gwener Ionawr 2 am 8.25 y nos.

Cliciwch i gael gwybod mwy am
Yr Arweinydd
Y Cadeirydd
Aelodau eraill


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy