BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
John Roberts WilliamsFfarwél i'r Sbectol
Mehefin 2005
Yn ystod yr haf hwn cyhoeddir Ffarwel i'r Sbectol, sef y gyfrol olaf o sgyrsiau radio'r diweddar John Roberts Williams.
Eisoes cyhoeddwyd wyth cyfrol o'r colofnau radio, a'i ddymuniad ef oedd bod y gyfrol hon hefyd yn cael ei chyhoeddi. Dros y misoedd diwethaf bu Alun Rhys, cynhyrchydd y colofnau radio, yn pori drwy dros 250 o sgriptiau rhaglenni a ddarlledwyd rhwng Medi 1999 a'r 18fed o Fedi 2004, sef y rhaglen olaf, gan ddewis a dethol y rhai i'w cynnwys.

"Wrth gwrs, gan fod 'na golofn wythnosol, roedd 'na doreth o sgriptiau dros y blynyddoedd, a braint enfawr oedd bod John Roberts Williams wedi gofyn i mi baratoi'r llyfr hwn," meddai Alun Rhys.

"John ddewisodd y teitl ac roedd yn gyfrifoldeb mawr i ddewis a dethol o'r sgriptiau, yn ogystal â bod yn bleser pur hefyd, ac yn atgoffa rhywun o ehangder a manylder ei wybodaeth," ychwanegodd.

"Fy ngobaith i yw y bydd pobl yn cael cymaint o foddhad o ddarllen y colofnau ag a gefais i yn eu dewis," ychwanegodd.

Bu John Roberts Williams yn darlledu'r colofnau radio hyn yn ddi-dor am 29 mlynedd, ffaith sydd yn fwy o gamp o ystyried mai ar ôl iddo ymddeol y cychwynnodd y gyfres.

Bydd y gyfrol ola yn cynnwys tua 50 o golofnau amrywiol o'r cyfnod rhwng Medi 1999 a 2004, ynghyd ag ambell sgwrs o gyfnod yr 80au cynnar sydd heb eu cyhoeddi o'r blaen.

Yn y colofnau ceir cyfuniad aml o'r rhyngwladol i'r cenedlaethol i'r lleol, ac mae'r gyfrol yn cynrychioli'r pynciau a oedd yn agos at galon y darlledwr yn y blynyddoedd diweddar, megis y Cynulliad a'r rhyfel yn Irac.

Cyhoeddir Ffarwél i'r Sbectol gan Wasg Gwynedd ym mis Gorffennaf.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy