Bellach gallwn ddatgelu fod y gwyr doeth wrthi'n brysur ar y pryd yn didoli ceisiadau am nawdd gan wahanol gynghorau cymuned ardaloedd
chwareli llechi Gwynedd.
Roedd hyn yn sgil y wybodaeth a roes yr "Eco" ar ddalen flaen rhifyn Tachwedd y llynedd, yn datgelu fod tua £50,000 o arian i'w glustnodi gan First Hydro ar gyfer gwahanol brosiectau.
Addewid oedd hwn, wrth gwrs, i rannu'r arian a ddaeth o
ddefnyddio tir First Hydro, sef hen chwarel Dinorwig, gogyfer a ffilmio "Clash of the Titans".
Ffilm yw hon yn ail-greu hanes Perseus yn ceisio achub Andromeda, a threuliodd dros ddau gant o bobl ddeg diwrnod yn ffilmio yn yr hen chwarel.
Rhoddwyd hwb i economi'r ardal gan y mewnlif hwn o arian, a bellach, elwodd gwahanol fudiadau o fewn ardaloedd ein cynghorau lleol ar haelioni First Hydro yn dosbarthu'r £50,000 a addawyd.
O fewn bro'r "Eco", mae Cyngor Cymuned Llanberis wedi elwa, gan dderbyn swm sylweddol tuag at wella cae chwarae Fron Deg.
Mae Cyngor Cymuned Llanrug hefyd wedi elwa'n sylweddol, gan dderbyn arian tuag at wella cae chwarae Pwll Moelyn, fydd yn cynnwys mewn-lenwi, offer newydd ac ail-osod llwybrau.
Yn ogystal, derbyniwyd arian tuag at gyhoeddi pamffled ar lwybrau cyhoeddus y plwyf (tebyg i'r un a gynhyrchwyd eisoes gan Landdeiniolen).
Mae Band Arian Llanrug hefyd wedi derbyn nawdd i brynu offer ar gyfer eu canolfan newydd.
Yn ôl a ddeallwn, mae'r arian a dderbyniodd y prosiectau hyn yn golygu dros £20,000.
Llongyfarchwn ein cynghorwyr cymuned (sy'n rhoi eu hamser yn hollol wirfoddol) ar lunio
ceisiadau oedd yn amlwg wedi perswadio'r "gwyr doeth" i gyfrannu'n hael tuag at y prosiectau lleol.
Er fod deugain mlynedd wedi mynd heibio ers i chwarel Dinorwig roi
cyflog byw i rai o drigolion y fro, mae'n amlwg fod arian i'w wneud o'r garreg
las o hyd.
Brysied y dydd
pan fydd ffilmio unwaith eto i'w wneud yno.
O.N. Bydd y ffilm "Clash of the Titans" yn cael ei rhyddhau ddechrau fis Mawrth.
Sgwn i fydd hi'n bosibl adnabod rhai o bonciau'r chwarel ynddi?