| Mae pob gêm wedi gadael ei hatgofion - cais dilys neu beidio yn 1905; trawsgic Clem Thomas; y neidio allan o'r llinell, a'r gêm ryfeddol fis Tachwedd. Ai'r gêm yma, er ein methiant agos, fydd yn tanio hyder ac yn ein hail gyflwyno i'n ffordd gynhenid o chwarae? Tra roedd tîm Graham Henry yn cyflawni taith ddiguro yn Ewrop, roedd tîm dan 21 Seland Newydd hefyd ar daith. Roeddent hwythau yn ddiguro pan gyrhaeddwyd Cymru, ar ôl buddugoliaethau yng Nghanada a Lloegr. Trefnwyd gêm iddynt yma yn y gogledd, yn erbyn y tîm dan 24. Denwyd torf o 3,000 i faes rygbi Bangor a chafwyd chwip o gêm, gyda'r ymwelwyr yn crafu trwodd 15-11 ar y diwedd. Roedd hyn yn hysbyseb gwych i ddatblygiad y gêm yn y gogledd. Buont yn aros yma am ychydig ddyddiau ac un o'r mannau yr ymwelwyd ag o oedd yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis. Yna cafwyd 'stop' am bryd o fwyd a thorri syched yn nhafarn y Gors Bach. Efallai eu bod wedi camgymeryd Wil am un o arwyr eu gorffennol agos, Sean Fitzpatrick. Ar y bwrdd llechan ger y bar, fe naddodd nifer ohonynt eu henwau. Pwy â ŵyr, efallai y byddwn yn cyfeirio at un o sêr y dyfodol rhyw ddydd. Ar y mur erbyn hyn mae'r llun uchod, a phob aelod wedi ei arwyddo. Gyda llaw, sylwch ar yr un yn y rhes flaen â'i dafod allan - cyfarchiad naturiol y Maori. Dyma 'Jimmy' Umanga, ac mae ei gefnder eisioes yn seren yn nhîm y Teirw Duon. Tybed a welwn ni rai o'r chwaraewyr ieuanc yma yn herio'r Llewod yr haf nesaf.
 |