Gwyneb cyfarwydd i ni ond efallai maes anghyfarwydd. Y person ifanc amryddawn yw Huw Foulkes, Tyddyn Gwndwn, Bethel.
Yn gyn Brif Ddisgybl Ysgol Brynrefail, mae Huw newydd
orffen ei drydedd flwyddyn yn astudio'r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae'n disgwyl ei ganlyniadau ac yn gobeithio dychwelyd yno ar gyfer cwrs M.A. mewn Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio.
Cipiodd y fedal am ddrama un act 'Enaid Hoff Cytun', a hynny ar ei gynnig cyntaf o lunio drama.
Prif thema'r ddrama yw'r ddeuoliaeth rhwng yr hen a'r ifanc sydd, yn y diwedd, yn arwain i debygrwydd rhyngddynt.
Lleolir y ddrama mewn tafarn draddodiadol Gymreig cyn dyfodiad y tafarnau thema modern, a'i sŵn a'i décor.
Lle i
gael peint, sgwrs a dadl.
Dau brif gymeriad sydd yma. Mae'r hen ŵr wedi cael ei lethu
gan euogrwydd: ef oedd yn gyrru'r modur pan laddwyd ei wraig mewn damwain.
Mae'r graith wedi ei heneiddio cyn ei
amser a daw'r peint a solas ffug iddo. Ei 'obaith' yw cael marw i gladdu'r euogrwydd.
Mae Huw yn cyfaddef iddo lunio rhai o stumiau, sgwrs a chryfder yr hen ŵr ar ei daid, y diweddar Jac Foulkes.
Ato i gynnal sgwrs daw llefnyn ifanc sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn llywaeth. Drwy ei sgwrsio heriol mae'r ifanc yn
rhyddhau yr henwr o'r beichiau mewnol sy'n ei lethu.
Cawn yma
ddarlun o'r newid mewn cymdeithas o'r cyfnod ble disgwylid i'r ifanc 'wrando' yn unig.
Hwy heddiw, yn aml, sy'n gosod yr agenda.
Mae gan y llefnyn ifanc ei
'obaith' hefyd. Dyna destun awdl mae'n ceisio ei gorffen i gyflawni ei uchelgais o gipio cadair eisteddfodol.
Fel yr a'r ddrama yn ei blaen cawn wybod fod y sgwrs yn symbylu'r awdl, ac yn ennill cadair iddo.
Yn anffodus erbyn hynny mae'r henwr wedi marw.
Cawsom gip o'r ddrama ar y wal fideo yn ystod y seremoni, gyda Stewart Jones a Dyfrig
Evans yn chwarae'r rhannau. Cawn glywed y ddrama yn ei chyfanrwydd yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn ar Radio Cymru.
Bydd Huw, fel rhan o'r wobr, yn cael mynychu gweithfeydd
techneg yn Nhŷ Newydd.
Mae rhai wedi gofyn a fydd ail act. Mae trydydd cymeriad merch y dafarn - yn ymddangos, sy'n rhoi sgôp i ymhelaethau.
Mae'n fwriad gan Huw ddychwelyd at y ddrama hon rhyw ddiwrnod. Efallai hefyd y bydd Cwmni Theatr Fach Llangefni yn llwyfannu'r ddrama. Edrychwn ymlaen.
Maes anghyfarwydd meddais ar y cychwyn. Rydym yn hen gyfarwydd a doniau Huw yn y
maes cerddorol.
Daeth hynny i'r amlwg yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Ers mis Tachwedd 2006, mae Huw wedi arwain Côr Aelwyd y Waun Ddyfal, Caerdydd, sydd ag wyth deg y cant o'r aelodau yn ogleddwyr
sydd wedi symud i'r 'ddinas fawr ddrwg'.
Nhw enillodd y gystadleuaeth i Gorau Pedwar Llais yn yr Urdd eleni.
Y llynedd, yn yr Ŵyl Gerdd Dant yn Ystrad Fflur, fe enillon nhw y wobr gyntaf i Gorau Cerdd Dant.
Bydd Huw yn brysur yn y Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni hefyd, gan y bydd y côr yn canu yn y cystadlaethau i'r Côr ieuenctid a'r Parti Cerdd Dant. Bydd yn aelod o'r Pedwarawd hefyd.
Hoffai Huw gydnabod
cefnogaeth ei deulu, ffrindiau a'i Diwtoriaid Sgriptio.
Diolchwn innau iddo am ei gyfraniad, gan obeithio ei fod yn symbylu eraill i
adlewyrchu y ddawn sy'n bodoli yn y rhan arbennig yma o Gymru.
RICHARD LLWYD JONES