| Mewn cystadleuaeth dynn iawn gydol y tymor, daeth Robin i'r brig gyda'r nifer mwyaf o bwyntiau mewn pedair ras allan o chwech. Roedd eisoes wedi cael canlyniadau da iawn ar ddechrau'r tymor, gyda rasus ym Mhen Cerrig Calch, Moel Eilio ac Elidir. Gan iddo fethu cystadlu yn Nant y Moch a'r Waun Fach, roedd y cyfan yn dibynnu ar y ras olaf yn y gyfres, sef ras hir Bannau Brycheiniog ddiwedd Awst. Gallai unrhyw un o bump rhedwr fod wedi ennill y bencampwriaeth yn ôl canlyniadau'r ras honno, ac er mai James McQueen (eto o Glwb Rhedwyr Eryri) oedd yn fuddugol, roedd ail safle i Robin yn ddigon iddo hawlio'r bencampwriaeth o ddau bwynt yn unig. Cadarnhaodd ei allu fel rhedwr mynydd yn Ras Pedol Peris yn ystod y mis diwethaf, gan gwblhau'r deunaw milltir o redeg ac 8,500 troedfedd o ddringo (gan gynnwys mynyddoedd Elidir, Y Garn, Y Glyder, Lliwedd, Yr Wyddfa a Moel Cynghorion) mewn amser o 3 awr a 49 munud. Roedd bron i chwe munud ar y blaen i'r ail redwr yn y ras. Credir fod y canlyniad hwn wedi bod yn ddigon iddo hefyd hawlio pencampwriaeth Clwb Rhedwyr Eryri. Maggie Oliver o Ddinorwig yw Pencampwraig Rhedeg Mynydd Cymru dros 50 oed. Dylid hefyd longyfarch Alun Vaughan o Lanberis a Jayne Lloyd o Gaeathro ar gael eu dewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Rhedeg Mynydd y Byd yn Alaska. Gall Dylan Wyn Jones o Ddeiniolen gyfrif ei hun yn anlwcus o beidio ennill ei le yn y tîm. Er iddo redeg yn arbennig o da yn y ras brawf yn y Waun Fach, penderfynodd y dewiswyr roi lle yn y tîm i ddau redwr a dorrodd reolau'r ras! Anfonodd Cymdeithas Rhedwyr Mynydd Cymru a Chlwb Rhedwyr Eryri brotest i Gymdeithas Athletau Cymru, ond ni roddwyd ystyriaeth i'w cwyn. Profodd Dylan ei fod yn gallu cystadlu â rhedwyr gorau Prydain pan ddaeth yn wythfed yn Ras Ben Nevis yn gynharach mis Medi. Gyda'r tymor rasus mynydd yn dirwyn i ben, bydd un cyfle ar ôl i redwyr y fro, pan fydd nifer ohonynt yn cynrychioli Clwb Rhedwyr Eryri ym mhencampwriaethau rasus cyfnewid ar fynydd yn Church Stretton ganol fis Hydref. Mwy am hynny yn y rhifyn nesaf.
 |