| Cafodd drydydd yn ei ddosbarth (4 mlwydd) yn sioe Genedlaethol Ceffylau Gwedd yn Peterborough. Hon yw 'Crufts' y ceffylau gwedd a mawr ydi'r anrhydedd i Rhys Griffiths am baratoi Hill Lodge Linton a'i arddangos mor llwyddiannus. Cafwyd llwyddiant ychwanegol gydag ebol dyflwydd, sef Trem y Wyddfa Richard.
Daeth yn gyntaf yn ei ddosbarth ac yn is-bencampwr yr holl sioe. Gan fod ei waed yn rhy agos i weddill ceffylau Tros y Waen, rhaid oedd gwerthu'r pencampwr ifanc hwn. Braf yw gweld fod yr hen draddodiad o fagu ceffylau gwedd yn parhau ym Mhenisarwaun a gychwynnwyd gyda William Hugh, Llys. Trosglwyddwyd yr awenau'n llwyddiannus iawn i'w fab Dylan. Bellach Rhys ac Elliw, plant Dylan, sydd yn arwain a thywys dan oruchwyliaeth ofalus eu taid a'u tad.
 |