 | Gwnaethant hyn y llynedd hefyd ac mae'r arian yn cael ei gyflwyno
i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd a Meddygfa Waunfawr.
Collodd Malcolm ei wraig, Yvonne, ar Fehefin 22 ddwy
flynedd yn ôl, pan gollodd ei
brwydr yn erbyn canser a hithau
ond 47 oed, ac maent yn ddiolchgar iawn am y gofal a'r caredigrwydd a roddwyd i Yvonne dros y blynyddoedd.
Roedd Malcolm ac Yvonne yn ffrindiau mawr gydag Alwena a'i gŵr, Bob, a'r teulu, ac mae Malcolm yn ddiolchgar iawn i Alwena am ei chwmni i feicio ddwy flynedd yn olynol.
Hefyd, fe nofiodd Malcolm 126 hyd pwll nofio Plas Menai ar Mai 6ed a'r 13eg - sef cyfanswm o 2.6
milltir. Hoffai ddiolch i Hans a Darren, Plas Menai, am ei ddysgu - rai blynyddoedd yn ôl bellach. Nid gwaith hawdd oedd hynny gan fod Malcolm yn ei chael yn
anodd i gofio cyfarwyddiadau yn dilyn ei ddamwain.
Bwriad Malcolm yw gwneud
yr ymdrech hon yn flynyddol os bydd iechyd yn caniatáu. Mae'n
ddiolchgar i'w blant, Mark a Fiona, am eu cefnogaeth gan nad yw bywyd wedi bod yn hawdd ers colli Mam. Diolch hefyd i bawb fu'n casglu enwau ar y ffurflenni noddi ac i bawb a gyfrannodd yn hael i gefnogi ei ymdrech.
 |  |