Ar gefn y ddysgl roedd y geiriau canlynol: 'First balloon flight over Snowdon: Saturday 15 April 1972. Thursday's Child G-AZBX from Llanrug to Llanfrothen. Flight Time 45 minutes. Pilots: Fred Holcroft, John Wailer.'
Doedd gen i ddim cof o gwbl o ddarllen na chlywed am y fath daith, yn enwedig gan fod y geiriad yn honni mai o Lanrug y cychwynnodd y daith. O ble felly? Doedd dim amdani ond chwilio ôl-rifynnau'r Caernarfon and Denbigh Herald am fis Ebrill 1972, ac yno, wythnos wedi'r digwyddiad roedd adroddiad eithaf manwl am y falŵn a hedfanodd dros yr Wyddfa.
Grŵp yn galw eu hunain yn 'Jasper hot-air balloon group' oedd yn gyfrifol am y fenter, ond nid yn Llanrug y cychwynnwyd ar y daith hanesyddol, ond yn y Waunfawr. Yn anffodus, nid yw'r union leoliad yn cael ei enwi, dim ond sôn am gyfarfod mewn cae ger y Waunfawr am un o'r gloch y pnawn, a gollwng nifer o fân falŵns heidrogen i'r awyr er mwyn ceisio mesur cryfder a chyfeiriad y gwynt.
Bu hyn yn digwydd gydol y awn tra roedd y ddwy falŵn fasged yn cael eu paratoi; sef Thursday's Child (lliw glas ac oren) a Serendipity (lliw glas a melyn).
Am hanner awr wedi pedwar y pnawn, cychwynnodd Thursday's Child ar ei thaith, ond cafodd ei chwythu heibio i Fetws Garmon ac ymlaen am Ryd-ddu, gyda Fred Holcroft a John Waller yn beilotiaid. Diflannodd o olwg y gwylwyr uwchben Beddgelert, ond llwyddodd i osgoi creigiau a chlogwyni Y Gymwynas (Bwlch Aberglaslyn), gan hedfan ymlaen am Brenteg. Ond rhywle islaw Pont Aberglaslyn aeth y fasged yn sownd mewn coeden, a dyna
ddiwedd y daith.
Yn y cyfamser, roedd Serendipity wedi cychwyn o'r un Waunfawr hefyd, ac wedi cael gwynt tecach i'w chario i fyny dros ystlys yr Wyddfa. Yn beilotiaid arni roedd Lt. Terry Adams a Joe Philip, gyda Roy Midwinter yn ddyn camera.
Dilynwyd y balŵn mewn car gan Mark a Terry Pritchard o Dudweiliog, ond y tro hwn, yn hytrach na dilyn ei chwaer am Feddgelert, hedfanodd Serendipity i gyfeiriad Nant Gwynant, a bu'n rhaid i'r gyrrwyr ceir anelu am Lanfrothen a Chroesor i geisio gweld lle byddai'n glanio.
Rywle yng nghyffiniau'r Cnicht a'r Moelwyn, gwelodd y peilotiaid fod gorsaf bŵer Ffestiniog yn agosáu, a dechreuwyd poeni y byddai'r balŵn yn taro'n erbyn peilonau a gwifrau trydan yr orsaf mo. Felly, penderfynwyd diffodd fflam y nwy, a disgynnodd y balŵn yn reit sydyn ar dir garw rywle uwchben Llanfrothen.
Yn ffodus, chafodd peilotiaid yr un o'r ddwy falŵn eu hanafu er iddynt orfod glanio'n ddisymwth. Un o aelodau'r 'Jasper hot-air balloon group' sy'n adrodd yr hanes yn y wasg, ond mae'n amlwg fod camgymeriad yn yr adroddiad neu yng ngeiriad y ddysgl.
Tybed a gafodd y ddysgl ei pharatoi cyn diwrnod yr hedfan? Ai bwriad y peilotiaid oedd cychwyn yn Llanrug a chyrraedd Llanfrothen? Beth fu'r achos iddynt newid eu meddyliau, a chychwyn yn y Waunfawr? A pham mai Thursday's Child sy'n cael y clod am hedfan dros yr Wyddfa, er mai mewn coeden ym Mhrenteg y glaniodd?
Os oes unrhyw un o'r darllenwyr yn cofio'r digwyddiad, tybed a fedrwch gysylltu i egluro ble'n union yn y Waunfawr y cychwynnodd y daith hanesyddol hon. Ac a oes unrhyw un yn gwybod pwy fu'n gyfrifol am gynhyrchu'r ddysgl i gofio'r daith - ac a oes mwy ohonynt ar gael yn rhywle?