BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Hysbysfwrdd ym Mhont PenllynGwerthfawrogi Golygfa
Mawrth 2006
Bu i hysbysfwrdd a osodwyd rai blynyddoedd yn ôl ger Pont Penllyn, ac a oedd o gymorth i ymwelwyr i werthfawrogi'r olygfa wych a geir o Eryri, gael ei ddifwyno.

Yn fuan wedyn fe'i tynnwyd i lawr ac roedd llawer un yn gofidio o weld ei le yn wag. Erbyn hyn mae panel gwybodaeth newydd sbon wedi ei osod ar yr un safle gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae wedi ei lunio o efydd wedi ei gastio ar ffurf tri dimensiwn gan y crefftwr, Andrew Coomber, o Sir y Fflint.

Mae'r olygfa ar draws Llyn Padarn wedi denu llawer i arlunydd ond mae'r panel hwn o grefftwaith unigryw yn galluogi unrhyw un i redeg eu bysedd dros y creigiau a'r dyffrynnoedd tra'n syllu arnynt.

Mae'n cynnwys hefyd ddarnau o farddoniaeth gan Iwan Llwyd a Gillian Clarke, wedi eu comisiynu yn arbennig, ynghyd a gwybodaeth am blanhigion prin yr ucheldir.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy