BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Gwybodaeth am y tywydd ar y sgrinGorsaf dywydd
Ebrill 2009
Mae cynghorau Llundain wedi ariannu rhwydwaith o orsafoedd tywydd ar draws ynysoedd Prydain fel rhan o brosiect amgylcheddol i ysgolion cynradd ac uwchradd yn ne Ddwyrain Lloegr.

Prif amcan y cynllun yma gan cynghorau Llundain yw mesur a chofnodi newidiadau tywydd a hinsawdd dros ardal eang, a'i ddadansoddi drwy fasdata cenedlaethol.

Mae'r pynciau amgylcheddo1 o fewn y cwricwlwm newydd yn cael sylw mawr mewn ysgolion, gyda'r pwyslais ar bolisïau sy'n leihau nwyon Co2 yn flaenoriaeth yn y cwricwlwm daearyddiaeth ac fel elfen o'r ABaCh 'dinasyddiaeth fyd eang'.

Fis Ionawr 2009 cafodd Ysgol Gynradd Llanrug gynnig ymuno gyda'r cynllun, a chytunodd y grid cenedlaethol ar gyfer dysgu (NGFL) i noddi ac ariannu'r orsaf dywydd yn Llanrug.

Mae gorsaf dywydd fechan wedi bod ar safle'r ysgol gynradd ers 1995 yn cofnodi tymheredd, glawiad, a gwynt, ond mae'r offer newydd yn llawer gwell.

Prif rinweddau'r orsaf newydd yw'r amrywiaeth o synwyryddion electronig i fesur yr holl elfennau amgylcheddol. Mae'r orsaf hefyd yn cynnig rhagolygon o'r tywydd yn lleol dros gyfnod o wythnos.

Yr hyn sydd yn unigryw yn y prosiect yw bod modd i unrhyw ysgol neu unigo1yn gysylltu yn uniongyrchol gyda'r safleoedd a gweld y data yn fyw ar sgrin gyfrifiadur.

Mae'r cwmni hefyd yn gosod gwe-gamera ar y to i ddangos llun byw o Ddyffryn Peris a'r Wyddfa fel rhan o'r data. Bydd y lluniau a'r data'n uwchraddio bob munud ar sgrin.

Mae modd i chithau fel darllenwyr gysylltu gyda'r wefan ar eich cyfrifiadur ar y cyfeiriad ar waelod y dudalen hon. (Ga11wch gael mynediad drwy ddefnyddio'r safle ysgol.)

Mae'n bwysig defnyddio'r cyfeiriad uchod i fynd yn uniongyrchol i safle'r ysgol. Nid yw yn bosibl cael mynediad trwy 'Google' gan ein bod yn blocio mynediad allanol).

Os ydych eisiau cysylltu gyda'r rhwydwaith o orsafoedd heb fynd drwy safle'r ysgol dyma'r cyfeiriad: http://weather.atomwide.com

Ewch i'r rhestr y gorsafoedd a chlicio ar Caernarfon.

Yn ystod y misoedd nesaf rydym am gymharu data a gofnodwyd yn mis Mawrth 1995 gyda data o'r orsaf dywydd newydd ar gyfer Mawrth 2008, i weld a oes yna unrhyw sail i'r ddamcaniaeth fod newid yn y tymhorau.

Mae'r lluniau o'r wefan yn dangos y gwahanol data sydd yn dod o'r synwyryddion.

Mae'r disgyblion yn defnyddio gorsaf dywydd fechan hefyd i wneud gwaith maes neu astudio corneli o fewn ffiniau'r ysgol. Mae'n anodd deall fod cymaint o wahaniaeth tymheredd rhwng yr ardaloedd cysgodol ar y buarth ar ardaloedd hynny sy'n wynebu'r haul e.e. Mae'r cennin Pedr yn blodeuo tua pythefnos o flaen y rhai sydd yn tyfu yn yr ardaloedd cysgodol.

Mae modd cario'r orsaf dywydd fechan yn eich poced i wahanol safleoedd ac yna recordio data tywydd wrth fynd am dro. Gellir lawr lwytho'r data i gyfrifiadur er mwyn dadansoddi'r wybodaeth.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy