'Dillad Del' yw'r cynllun dillad newydd sydd yn cynnig gwasanaeth ail-ddefnyddio dillad plant yn y
gymuned leol. Cesglir y dillad trwy'r banciau tecstiliau gan weithwyr Antur Waunfawr, maent yn addas ar gyfer unrhyw ddilladau nad yw pobl eu hangen.
Gwerthir y dillad yn ôl i gwsmeriaid o'r gymuned leol trwy'r siop yn Warws Werdd, Cibyn.
Mynegodd Menna Jones, Prif
Weithredwraig Antur Waunfawr:
'Mae'r cynllun yma yn cynnig cyfle i deuluoedd lleol brynu dillad o safon uchel am bris
rhesymol, ac mae Antur Waunfawr yn falch o allu cynnig prosiect mor ddefnyddiol, ar adeg pan mae pobl yn colli swyddi a llai o bres ar gael ar gyfer hanfodion.
"Rydym hefyd yn annog pobl leol i roi eu dillad yn y banciau sydd a logo 'Antur Waunfawr' arnynt, er mwyn ein galluogi i ail-ddefnyddio mwy o ddefnyddiau yn lleol, ac ateb anghenion lleol.'
Menter gymunedol yw Antur Waunfawr sydd yn cynnig cyfleon gwaith i unigolion ag anableddau dysgu; ynghlwm a'r cynllun dillad newydd sydd wedi creu mwy o swyddi oddi mewn i'r cwmni, y mae'r gwaith arferol a gyflawnir gan yr unigolion yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gynnwys gwasanaeth arlwyo cartref, gwaith celf a chrefft,
garddio, adnewyddu a chreu dodrefn ac ailgylchu
deunyddiau.
Bellach y mae Antur Waunfawr yn dathlu dros 25 mlynedd llwyddiannus o fodolaeth ac yn rhoi y cyfle i'r unigolyn ddatblygu i'w llawn botensial yn eu cymunedau lleol.
Mae 'Dillad Del' yn cyflwyno sialens newydd i greu tasgau gwaith newydd i weithwyr ag anabledd yn yr 'Ysgubor Fach' ar safle Waunfawr.
Mae'r adeilad
penodol hwn yn gweithio ar ffurf golchdy gyda threfniant ychwanegol o ddidoli a dethol y dilladau.
Ceir y cyfle wedyn i brynu'r eitemau fforddiadwy
mewn adran arall o Antur
Waunfawr, sef yr Warws Werdd
yng Nghaernarfon.
Wrth reswm, y mae hyn yn chwa o awyr iach i unrhyw riant yn enwedig wrth ystyried sefyllfa yr hinsawdd economaidd presennol.
Un o fwriadau sylfaenol Antur Waunfawr yw bod yn 'wyrdd' ym mhob ystyr ac maent mewn partneriaeth a Chyngor Gwynedd i geisio hyrwyddo hyn yn lleol drwy weithio ar y cyd yn Caergylchu.
Dywed Uwch
Swyddog Gwastraff Cyngor Gwynedd, Steffan Jones am yr ymgyrch:
'Mae'r fenter yma yn cyplysu yn dda gyda gwaith arall y mae Antur Waunfawr yn wneud yn
Caergylchu. "Mae'n dda gweld peth o'r dillad sydd yn cael eu casglu yn cael eu cadw o fewn Gwynedd ac yn cael eu hail¬ddefnyddio.
"Mae treial eisoes wedi digwydd gyda chasgliadau dillad gyda'r bocs glas a byddwn yn ymestyn y cynllun hwn yn ystod 2010.'
Un o aelodau brwd y cynllun dillad yw cydlynydd safle Antur Waunfawr, Heulwen Huws, dywedodd:
'Trwy barhau a'r cynllun 'Dillad Del', mi fydd pawb yn helpu ei gilydd gan greu cadwyn llwyddiannus o gefnogi cwmni elusennol, yr economi leol, yr amgylchedd, y cymunedwyr a chwsmeriaid, cynilo gwariant personol a ffasiwn del a fforddiadwy i fabis a phlant!'
Er bod y cynllun dillad yn gweithredu ers rhai wythnosau
bellach, roedd Antur Waunfawr yn cynnal agoriad swyddogol ar ddydd Llun 26ain 0 Ebrill, 2010.
Fel gwestai arbennig roedd y cyflwynwraig teledu adnabyddus
Nia Parry i agor cypyrddau y siop "Dillad Del" yn ,
Werdd ond oherwydd gwaeledd fe gamodd y Maer, Hywel Roberts i'r bwlch ar fyr rybudd.