BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Y teulu yn cyflwyno'r siecYstyr y Nadolig ar waith
Nadolig/Ionawr 2008
Derbyniodd elusen sy'n rhoi llety i rieni plant sy'n cael triniaeth yn Ysbyty Alder Hey anrheg Nadolig gwerth chweil, diolch i garedigrwydd trigolion ardal yr Eco.
Cynhaliwyd noson gymdeithasol yn Y Caban, Brynrefail, er mwyn casglu arian i MacDonald House 'nol yn mis Medi, ond cadwyd y coffrau ar agor am nifer o wythnosau gan bod cymaint o bobol nad oedd yn medru mynd i'r noson eisiau cyfrannu.

Ychydig wythnosau cyn Y Nadolig aethpwyd â'r arian - £1,918 - a'i gyflwyno i'r elusen yn Lerpwl. Lle aros sy'n cael ei redeg ar gyfer teuluoedd plant sy'n cael triniaeth yn ysbyty Alder Hey yw 'MacHouse'.

Mae nifer fawr o deuluoedd gogledd Cymru yn cael budd o'r lle, rhai yn byw yno am fisoedd ar y tro yn rhad ac am ddim. Mae'n galluogi rhieni i fedru bod ond ychydig funudau i ffwrdd oddi wrth eu plant yn ystod y nos, ac yn tynnu'r straen o orfod chwilio am westy mewn dinas ddieithr ar fyr rybudd pan bod digon i boeni amdano yn barod.

Trefnwyd y noson gan deulu Buddug a gafodd lawdriniaeth ar ei chalon yn Alder Hey ym mis Chwefror 2007.

Mae Buddug bellach yn flwydd a hanner ac yn mynd o nerth i nerth.

Dywedodd ei mam, Gwenan: 'Diolch o galon i bob un a wnaeth gefnogi'r noson. Mae pawb wedi bod mor garedig.'


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy