| Y gyrchfan oedd Ynys Vlieland. Ynys fechan iawn (20 cilomedr o hyd a 2.5 cilomedr o led) yw Vlieland ac yn un o nifer o ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol yr Iseldiroedd, a adnabyddir fel Ynysoedd y Frisian Wadden. Mae iddi hanes sy'n deillio'n ôl i'r ddeuddegfed ganrif ac yn adnabyddus fel cyrchfan i forwyr a physgotwyr morfilod. Mae iddi un dreflan Oost Vlieland. Yno yr ymgartrefodd yr aelodau am bedwar diwrnod mewn dau westy bron gyferbyn â'i gilydd. Roedd Jan van Houter a'i wraig, Erna, yn benderfynol o gael y côr i ymweld a pherfformio yn Vlieland. Clywsant y côr yn ymarfer yn y Mynydd Gwefru pan oeddynt yn aros gyda'u cyfeillion, y cerddor adnabyddus Dafydd Bullock ac Ulrika, yn Fachwen, a gwirionodd y ddau ar y seiniau. Gydag Aneuryn Jones ac Elwyn Jones yn trefnu'r daith fe wireddwyd breuddwyd Jan. Roedd y croeso yn gynnes a diffuant. Cyhoeddodd Jan mai ychydig dros fil o drigolion oedd yn byw ar yr ynys, gyda phob un yn berchen beic! Ychydig iawn o geir oedd yno. Gan fod Vlieland erbyn hyn yn gyrchfan i ymwelwyr, penderfynodd Jan fuddsoddi mewn beiciau - roedd yn berchen ar 2,000 ohonynt! Cynigiodd feic i bob aelod o'r côr a'u gwragedd, a hynny yn ddigost. Dyna beth oedd bargen ac fe fanteisiodd y mwyafrif ar y cynnig. Dyma'r côr cyntaf o Gymru i fynd dramor gyda'r aelodau'n dychwelyd yn flinedig a bloesg eu lleisiau ac yn dendar o amgylch y penolau! Dim ond un neu ddau ddaeth oddi ar eu beiciau yn gynamserol ac yn y modd mwyaf anghonfensiynol. 'Pa fodd y cwymp y cewri!' Cynhaliwyd un cyngerdd, un gwasanaeth eglwysig a nifer o gyngherddau answyddogol. Tyrrodd pobl oddi ar y stryd i Westy Golfzang i wrando ar y canu, ac yn eu plith ddau blismon y dref! Ymunodd y ddau gydag Elwyn ac Aneuryn i ganu y 'Two Gendarmes'! Anodd credu gweld dau blismon gyda gwên lydan yn ymuno yn y rhialtwch! Profodd y ddau berfformiad swyddogol yn llwyddiant ysgubol, gyda'r dorf yn codi fel un i gymeradwyo a chrefu am fwy. Gwerthfawrogwyd hefyd gyfraniadau Lowri a Hefina. Swynwyd y gynulleidfa a'r côr gan griw o'r ynyswyr yn canu caneuon y môr ac ar ôl terfynu'r cyngerdd, parhaodd y canu a'r cyfeillachu hyd oriau mân y bore. Bydd ymweliad y côr a Vlieland yn aros ar femrwn y cof am amser maith. Bu'n gyfle i ymlacio ac i gymdeithasu a gwneud cyfeillion newydd. Does ond gobeithio y gall Côr Dyffryn Peris weld eu ffordd yn glir i wahodd 'Lleiswyr y Môr' o'u cynefin iseldirol i ucheldir Eryri fel y caiff trigolion Dyffryn Peris fwynhau a gwerthfawrogi eu diwylliant. Hir y pery'r cyswllt rhwng y ddwy ardal. Dymuna aelodau Côr Dyffryn Peris ddiolch o waelod calon i nifer o gantorion Côr Dyffryn Nantlle a Chôr Dinas Bangor a ymunodd â hwynt ar y daith i atgyfnerthu'r seiniau a'r perfformiadau.
 |