Fel na yn union y canodd yr emynydd, sef Thomas Wiliam (1761-144), Bethesda'r Fro.
Loetran roeddwn i, a hithau'n hwyrddydd haf, yn y flwyddyn 1994. Aros ennyd cyn ail gychwyn ac, wrth lin-di-loncian fesul tipyn ar hyd un o'm hoff ffyrdd yng nghefn gwlad, rhyw feddwl pa mor ffodus rydan ni o ran yr holl gyfoeth a'r atyniadau i lygaid a drig yng nghysgod clawdd neu wrych. Ond yna, rhwng Pensarn a Lôn Las, daeth tro ar fyd. Gwelwn goloman lwyd yn gwingo ar ochr y ffordd fawr. Coloman rasio ydoedd hi, a'r gwaed yn ceulo ar ei hadenydd. Ni allai hedfan.
O'i chodi a'i gollwng, disgynnai fel dernyn o blwm. A dyna ble roeddwn ar fy nghyfyng gyngor beth i'w wneud â'r aderyn clwyfedig? Ni allwn fentro mynd â hi adra oherwydd bod acw giathod! Arafodd modur wrth fy ochor, a llais yn fy nghyfarch."Mewn traffarth rydach chi?" holodd Cymraes.
"Cloman sy wedi brifo ei dwy aden", mentrais ddeud.
Ar hyn daeth lonciwr heibio â'i wynt yn ei ddwrn. Arafodd, a stopio'n stond. Cymro Cymraeg ydoedd hefo peth anadl yn sbar i'm cynorthwyo i gludo'r goloman - a anafwyd i Lôn Las.
Yno fe'n croesawyd gan Gruff Wilias, sef y diweddar Gruffudd Wilias erbyn hyn, a Gwladys ei wraig.
Cymry oeddynt, wedi ymddeol ers blynyddoedd, ac o ran cyrff ac eneidia, mor ifanc ag erioed.
Rhoddwyd yr enw Tangnefedd ar y goloman ac yno y buodd hi am fis ac wsnos. Cafodd pob gofal posib a charedigrwydd o'r mwya'.
Yn Lôn Las roedd hen gawell adar, a thaenwyd grawn ar ei waelod. Cedwid y cawell a'r goloman allan yn ystod y dydd ond gynted ag oedd yr haul yn mynd i'w wely, eid â'r gawell i fan diogel mewn adeilad wrth ymyl y ty, gan ofalu'i ddwyn i ola' dydd drannoeth.
Wedi hynny, ar fy nghrwydriadau, aeth yn arferiad gen i alw'n Lôn Las, er mwyn ca'l sgwrsio'n bennaf ac hefyd i holi ynghylch Tangnefedd. A byddai Gruff Wilias, hefo sioncrwydd yn ei lyg'id, yn deud "Tangnefadd! Yli, dacw hi! Mae hi'n dilyn Gwladys y wraig i bob man!"
Petha fel hyn sy' wedi aros yn y cof am gefn gwlad, a chymeriadau cyffelyb i Gruff a Gwladys Wilias, Lôn Las, ia - hen yd y wlad go iawn. Drwyddynt hwy cyfoethogwyd fy mywyd, a thrwyddynt yn ogystal y dysgais am Fywyd.
A Thangnefedd?
Gwyr aderyn ac anifail yn dda ble mae nodded i'w ga'l; gwyr os oes yno groeso. Fe gryfhaodd y goloman, diolch i Gwladys a'r diweddar Gruff Wilias. Onid oeddynt yn cyflawni'r hyn a dd'wedodd Dewi, Nawddsant Cymru, wrthym am 'neud, sef gwnewch y pethau bychain', a hynny drwy osod mymryn o rawn India Corn a soseraid o ddwr glan a chroyw yn feunyddiol ar gyfer un claf pluog?
O'i rhyddhau o'r gawell, aeth yr aderyn i ddechra' clwydo gyda'r nos ar ben simdde'r bwthyn ac yna un diwrnod, yn ôl pobol ddwr hen le, hedfanodd uwchben y caeau ger Lôn Las, cylch-drodd ddwywaith yn yr awyr ac yna roedd wedi mynd!
Adenydd colomen pe cawn,
ehedwn a chrwydrvn ymhell
I gopa bryn Nebo mi awn...
ond gyda'r nerth dd'wedwn i, ia, - i fod yn ddiolchgar am y petha bychain mewn hyn o fyd, a, a bywyd daearol.