BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Syrjeri doctoriaid Waunfawr yn LlanrugColli gwasanaeth?
Mawrth 2009
Gall yr Eco ddadlennau fod cais wedi ei wneud i agor siop fferyllydd yn Llanrug.

Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu gallai olygu colled yn y gwasanaethau a gynigir gan y ddwy feddygfa'n y pentref. Deallwn fod y cais wedi ei wneud i Fwrdd Iechyd Gwynedd gan ddau fferyllydd o Fôn.

Derbyniodd yr Eco ddatganiad gan feddygon y Waunfawr yn tanlinellu'r bygythiad i'w practis, a chyhoeddir ef yma er gwybodaeth.

Bygythiad difrifol i'n practis

Fel eich meddygon teulu, teimlwn y dylem eich hysbysu o fygythiad difrifol i'n Practis.

Gwnaethpwyd cais, gan Mri Carr a Barlow, i Fwrdd Iechyd Lleol Gwynedd i agor siop fferyllydd Llanrug ar Ffordd yr Orsaf, Llanrug.

Pe bai'r cais yma yn llwyddiannus, byddem ni fel Practis, yn ogystal a'n cyd-feddygon cyfagos yn Llanberis, yn colli'r hawl i ddosbarthu moddion i unrhyw glaf sy'n byw o fewn milltir i'r fferyllfa arfaethedig.

Golyga hyn y byddem yn colli incwm sylweddol ac y byddai'n rhaid colli aelodau o'r staff, ac yn bendant un o'r meddygon.

O ganlyniad, byddai gostyngiad sylweddol yn y gwasanaeth i bentref Llanrug.

Hyderwn eich bod wedi cael y gwasaneth meddygol gorau gennym dros y blynyddoedd.

Yn anochel, byddai colli meddyg yn golygu dirywiad yn ansawdd y gofal yma, nid yn unig i'n cleifion yn Llanrug, ond i bob un o'r 5,000 a mwy o boblogaeth y Practis.

Teimlwn yn gryf y dylai'r Bwrdd Iechyd wrthod y cais yma.

Os ydych chi'n gwerthfawrogi'r gofal meddygol a dosbarthu a roddwyd i chi a'ch teulu dros y blynyddoedd yn Llanrug, byddem yn falch o'ch cymorth.

Os ydych chi'n credu fod meddyg yn Llanrug yn fwy o fudd i chi a'r teulu na fferyllydd, fyddech chi cystal ag ysgrifennu mor fuan â phosibl i: Emma Williams
Canolfan Gwasanaethau Busnes
GIG Cymru
Tŷ Cwmbrân
Ystad Parc Mamhilad Pontypwl
Tor-faen
NP4OXS

emma.williams2@bsc.wales.nhs.uk

Os nad ydym yn barod i ymladd yn gryf yn erbyn y cais yma, teimlwn na allwn barhau gyda'r gofal meddygol rydych wedi arfer ei gael dros y blynyddoedd.

Diolch yn fawr. Huw L Roberts, Esyllt Llwyd, Gruffudd Penrhyn Jones, Huw Gwilym


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy