BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Wavell RobertsWavell: rhoi'r gorau i'r siop
Nadolig/Ionawr 2006
Ar ôl 40 mlynedd yn rhedeg ei siop cigydd, mae Wavell Roberts yn ymddeol.
Erbyn hyn, mae'r enw 'Wavell' yn adnabyddus iawn yn yr ardal a rhai yn dod o bell i brynu cynnyrch yn ei siop yn Llanrug ond ar ôl cyfnod prysur y Nadolig, bydd y cigydd yn rhoi'r gorau i redeg ei fusnes.

Er ei fod yn gigydd llwyddiannus ac wedi ennill degau o wobrau am ei gynnyrch, gyda rhai o fwytai gorau'r ardal yn gwsmeriaid iddo, bu bron i'r siop beidio â bod - ac mae'r diolch i'w wraig, Elizabeth, am ei berswadio i gymryd y fenter.

"Ar y dechra mi roeddwn i'n reit nerfus" meddai Wavell. "I ddweud y gwir y musus wnaeth fy mherswadio fi i fynd amdani achos doedd gen i ddim profiad efo'r ochr rhedeg busnes o gwbwl ond mi wnaeth hi fy mherswadio fi i fynd amdani. Doedd hi ddim yn hawdd ar y dechrau ac mi roedd hi'n galed iawn, iawn arno ni am dipyn o flynyddoedd ond mi ddaeth."

O ran yr ochr trin cig, roedd gan Wavell eisoes flynyddoedd o brofiad gan iddo ddechrau ar ei yrfa fel cigydd pan yn 11 oed. Roedd yn byw dros y ffordd i'r Foelas, Ffordd yr Orsaf, Llanrug - cartref i'r henoed erbyn hyn, ond siop cigydd yn y 50au. Gyda'r nosau ac ar ben wythnosau roedd Wavell yn helpu yn y siop - yn gwneud pob dim, o lanhau'r fan i fynd ar gefn beic i fynd a chig i gwsmeriaid. Ar ôl gadael yr ysgol aeth Wavell i weithio i Chwarel Dinorwig yn 1956 a dechrau teulu yn Llanberis efo'i wraig Elizabeth. Roedd yn dal i weithio gyda'r nosau yn y siop gig ond fe ddaeth hyn i ben pan aeth y siop ar werth yn 1965.

Er ei fod yn awyddus i brynu'r busnes doedd o ddim yn benderfyniad hawdd i fuddsoddi arian ac amser i'r fenter ac yntau'n dechrau magu teulu ifanc - gyda dau o blant bach ar yr aelwyd yn barod, ond gyda chymorth eraill, fe wnaeth Wavell fedru dod i gytundeb a phrynu'r busnes.

Ar ôl cyfnod yn y Foelas fe brynodd dŷ ar Ffordd yr Orsaf a symud y siop a'i deulu yno - sef safle presennol y siop, lle y ffynnodd y busnes.

"Mi 'da ni'n lwcus bod geno ni gwsmeriaid da iawn," meddai Wavell. "Mae yna rai yn dod o Sir Fôn. Mae gen i regulars o ochrau Talwrn, er enghraifft, a mor bell a Rhyl.

"Doeddwn i 'rioed wedi gwneud llawer yn yr ysgol - dim rhy dda efo gwaith pensil a llyfrau - a mi fydda i'n aml yn meddwl be faswn i wedi ei wneud os na faswn i wedi prynu'r lle. Debyg mai labrwr fyddwn i wedi bod fel arall."

Er mai siop 'Wavell' ydi hi, mae'r cigydd yn dweud bod y llwyddiant wedi dibynnu ar waith caled eraill fu'n gweithio yno - yn cynnwys ei blant fu'n helpu yn y siop - ac yn enwedig ei wraig, Elizabeth, fu'n cadw'r llyfrau ar hyd yr amser.

Er y bydd yn chwith heb Wavell tu ôl i'r cownter, mae'n edrych yn debyg bod y siop am barhau gan fod person lleol yn awyddus i brynu'r busnes. Erbyn y rhifyn nesaf o'r Eco, mae'n debyg y bydd y cytundeb wedi ei gwblhau a byddwn yn medru enwi pwy fydd cigydd newydd Llanrug.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy