Bu Wavell yn ennill y gwobrau hyn am flynyddoedd cyn ei ymddeoliad yn ddiweddar.
Mae'r olyniaeth felly yn parhau, gyda Bryn yn defnyddio riset arbennig Wavell i gynhyrchu sosej a phasteiod gorau gogledd Cymru.
Yn y gystadleuaeth, a oedd yn agored i gigyddion siroedd gogledd Cymru, enillodd Bryn dair gwobr aur - am sosej porc traddodiadol, am sosej porc a chennin, ac am bastai borc.
Roedd dros ddeg ar hugain o gigyddion o bob rhan o'r gogledd yn cystadlu, a bron i 300 o wahanol ymgeision yn y gwahanol gategori'au.
Y sosej porc traddodiadol ddaeth i'r brig yn y gystadleuaeth am y sosej gorau, a hwnnw ddaeth â'r tlws cyntaf i Bryn yn ei fusnes newydd.
Roedd enillwyr y gwahanol gategorïau yn mynd ymlaen i gystadlu am brif wobr y bencampwriaeth, sef y cynnyrch cig gorau ar y noson, ac unwaith eto, Bryn aeth â hi gyda'i sosej porc traddodiadol.
Mae'r brif wobr hon yn golygu ei fod bellach yn cael cystadlu yn genedlaethol yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fis Gorffennaf, ac ym Mhencampwriaeth y Pencampwyr, i holl gigyddion Prydain, mewn lleoliad i'w benderfynu; o bosibl yn Llundain neu Birmingham.
Mae'n glod arbennig i Bryn yn ei gystadleuaeth gyntaf, ac yr oedd y beirniaid yn llaes eu canmoliaeth, sef Alan Benett, pencampwr Prydain am wneud sosej, a D. Elliott, a ddywedodd mai 'Dyma'r sosej gorau iddo ei feirniadu mewn deugain mlynedd o gystadlaethau.'
Roedd Bryn hefyd yn hael iawn ei ganmoliaeth i Wavell, gan bwysleisio mai 'athro da' a'i galluogodd i ennill mor gynnar yn ei yrfa.
Bydd angen i gwsmeriaid gyrraedd y siop yn gynnar iawn os am flasu'r sosej porc traddodiadol, gan fod mynd mawr arnynt yn barod.