| Bu cryn sôn am y gwaith o adeiladu canolfan ar y copa ers tro, gyda'r cyfryngau yn dyfynnu geiriau y tywysog (highest slum in England and Wales) hyd syrffed. Bwriad y cynllun yw chwalu'r adeilad presennol yn ystod misoedd yr hydref ac yna cychwyn ar y gwaith adeiladu yn ystod 2007. Golyga hyn y bydd y rheilffordd ar gau i draffig ymwelwyr o orsaf Clogwyn i gopa'r Wyddfa hyd at haf 2008. Wedi peth trafferth llwyddwyd i gael swm syfrdanol o arian, oddeutu £9,000,000, o sawl ffynhonnell ar gyfer y gwaith. Deallwn y bydd yr adeilad newydd yn cael ei osod at ei gilydd mewn darnau ar lannau Dyfrdwy ac yna eu cludo i'r copa ar wagen arbennig. Tybed faint o drigolion yr ardal fydd yn ymgymryd a'r gwaith? Ni fu adeiladu'r 'gwesty' presennol yn ddiffwdan 'chwaith. Yn fuan wedi codi'r adeilad presennol gan Syr Clough Williams-Ellis yn 1935 ymwelodd Morus y Gwynt a'r safle a thorrodd y ffenestri yn deilchion. Tybed be ddaw o'r adeilad newydd a'i do gwyrdd, glas neu goch? Mawr obeithiwn y bydd ei ffenestri mawr crand yn cael llonydd gan Morys y Gwynt a gan y cerddwyr sydd yn ymweld yn gyson â'r Copa drwy gydol y flwyddyn - ac y bydd yr adeilad yn ddigon cadarn i wrthsefyll unrhyw wyntoedd cryfion neu efallai y bydd enw newydd ar un o gymoedd Eryri cyn bo hir -Cwm Furneaux Stewart (y pensaer)?!! Amser a ddengys... O.N. Mae croeso i unrhyw un gyfrannu at gostau'r adeiladu gan fod apêl y Parc Cenedlaethol yn dal yn agored! Os nad oes gennych awydd cyfrannu i'r achos bydd croeso i chwi anfon unrhyw swm neu erthygl at achos yr Eco, rhag iddo yntau ddiflannu gyda'r gwynt.
 |