| Yn ystod y blynyddoedd diweddar gwelwyd cynnydd syfrdanol yn y nifer sydd yn dringo ein mynydd uchaf gyda'r gobaith o godi arian at wahanol achosion elusennol. Derbyniodd Valerie Prydderch, o Lanberis, yr her pan glywodd fod yna elusen am gludo sawl un i gopa'r mynydd ar yr un diwrnod. Derbyniodd mintai deilwng o hogiau ifainc y fro y sialens, gan gynnwys gweithwyr Steel Scaffolding Deiniolen, a'i chario ar eu hysgwyddau, bron heb saib, i gopa'r hen fynydd mewn dwy awr a phumdeg a saith munud. Camp gwbl anhygoel.
Cwblhawyd y daith yng nghanol gwynt a glaw y Sadwrn cyntaf o Orffennaf ac fe'i codwyd uwchben y copa yn fuddugoliaethus. Cludwyd Valerie mewn cadair bwrpasol a oedd wedi cael ei haddasu gan y cwmni 'Byw Bywyd' o Gaerwen, cwmni sydd yn arbenigo mewn darparu offer ar gyfer yr anabl. Derbyniwyd cymorth hefyd ar gyfer y fenter gan Steel Scaffolding, DMM Engineering, Dŵr Cerist a Rheilffordd yr Wyddfa. Dymuna Valerie ddiolch yn bennaf i'r cludwyr ac i bawb a fu'n gysylltiedig â'r ymdrech am eu cymorth a'u haelioni. Casglwyd dros £700.00 tuag at Multiple Sglerosis, Cymru.
 |