| Mewn cinio mawreddog y mis diwetha cafodd Haf Thomas, o Lanrug, ei chyflwyno gyda thlws Pencampwr Cymunedol Gogledd Cymru. Fe gafodd y wobr mewn seremoni oedd wedi ei threfnu i ddweud diolch wrth bobol, ar hyd a lled Gogledd Cymru, oedd wedi gwneud cyfraniad arbennig i'r gymuned. Haf oedd 'pencampwraig y pencampwyr' am ei gwaith diflino i godi arian at achosion da. Roedd cannoedd o bobol wedi eu henwebu gan elusennau, darllenwyr papurau lleol Gogledd Cymru a busnesau. Ond fe benderfynodd beirniaid y gystadleuaeth - oedd yn cael ei threfnu gan 'Scottish Power' a 'Gwasg Annibynnol Gogledd Cymru' - roi'r wobr i'r ferch o Lanrug. Mae Haf, sy'n gweithio i Gyngor Gwynedd, wedi codi dros £4,500 i elusennau. Dywedodd ei ffrind, Brenda Brown, o Fethel, ei bod yn wych am godi arian ac yn dod â staff y cyngor at ei gilydd bob Nadolig i ffurfio côr. "Dros y blynyddoedd mae Haf wedi codi dros £4,500," meddai. "Hebddi hi fyddai pobol ddim yn dod at ei gilydd i godi arian. Hi'n sy'n trefnu bob dim. Mae hi'n boblogaidd iawn a heb air drwg i'w ddweud am neb." Yn y gorffennol mae Haf wedi codi arian i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd; Unicef. Tir Gobaith; Ysbyty Eryri; Ty Enfys ac Apêl Afganistan. Cafodd y tlws ei gyflwyno iddi gan yr actoress Alex Fletcher oedd yn chwarae rhan Jackie Dixon yn y ddrama Brookside, yn y noson wobrwyo yn Kinsale Hall Hotel, yn Mostyn.
 |