BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Y plant yn nrws y beudyYsgol Waunfawr a Beudy Cae Adda
Gorffennaf 2004
Roedd dydd Mercher Mehefin y 9fed yn ddiwrnod bythgofiadwy i enethod blwyddyn 6, gan iddynt gael eu gwahodd i agoriad swyddogol beudy Cae Adda yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.
Cyd-deithio ar y trên o Fangor gyda'n ffrindiau o'r Antur a chael croeso twymgalon gan staff yr amgueddfa.

Roedd yn braf cael gweld y beudy ar ei newydd wedd a theimlo balchder arbennig wrth weld gwaith celf plant yr ysgol yn addurno'r adeilad gwyngalchog. Yr arlunydd Luned Rhys Parry fu yma yn gweithio'n brysur gyda phlant blwyddyn 3 a genethod blwyddyn 6 yn creu modelau o wartheg, llestri, tebot a chadeiriau ar gyfer yr agoriad. Catrin Williams fu'n cydweithio gyda chriw yr Antur ac roedd y cyfuniad o'r modelau a'r baneri yn perthnasu'r holl brosiect gyda phentref Waunfawr.

Diolch i'r Cynghorydd Mr Gwilym Williams ac aelodau Cyngor Cymuned Waunfawr am eu rhodd ariannol o £150 tuag at gostau'r trip. Y flwyddyn nesaf bwriedir cynllunio taith i Sain Ffagan i ddisgyblion blwyddyn 4 ,5 a 6 i weld y beudy a Charreg Fawr.

Seiliwyd yr ymweliadau addysgol eraill ar waith thema'r tymor. Bu plant blwyddyn 3 ar ymweliad yn Gelli Gyffwrdd; blwyddyn 5 a 6 yn Amgueddfa Lechi Llanberis; Adran y Babanod yn Fferm y Foel, tra bydd blwyddyn 4 yn cael taith am Lyn Glaslyn.

Cynhaliodd Adran y Babanod eu taith gerdded noddedig flynyddol yng Nglynllifon ar Fehefin y 10fed, diolch i flwyddyn 6 am helpu. Bydd yr Adran lau yn cynnal eu taith gerdded noddedig hwy o amgylch Llyn Llanberis Ddydd Llun Mehefin 21ain.

Diolch i Mr Ken Latham am gynorthwyo, a diolch arbennig i bawb a gyfrannodd yn ariannol. Bydd elw'r teithiau cerdded yn mynd tuag at brynu Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol yn y neuadd ar gyfer mis Medi. Diolch i bawb a gasglodd docynnau Teseo. Mae gennym dros 25,000 yn y coffrau erbyn hyn a byddwn yn archebu cyfrifiadur newydd i'r ysgol - gwych iawn.

Hoffem ddiolch hefyd i'n ffrindiau o'r Antur a Mrs Anna Williams am gyd-weithio gyda'r plant i wneud basgedi blodau ar gyfer y Ffair Haf.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy