Mae aelodau o griw cynhyrchu cwmni Sianco o Gaernarfon newydd ddychwelyd o Batagonia ac Awstralia ble y buont yn dilyn ôl troed gŵr o'r enw Ellis Williams a fu'n byw ar fferm Gors yn ardal Y Waun, rhwng Penisarwaun a Llanddeiniolen.
Gorfodwyd Ellis i adael Cymru yn 1908 am iddo ddwyn ffesant o dir plas y Faenol ger Bangor. Aeth i Batagonia i weithio fel gaucho ac yna i Awstralia ble y cofrestrodd gyda'r fyddin cyn cael ei ladd yn Ffrainc yn 1918. Fe'i claddwyd ym mynwent Hangard Wood ychydig cyn i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddod i ben.
Bydd y ffilm awr a hanner o hyd, Llythyrau Ellis Williams, yn seiliedig ar gyfres o lythyrau a anfonodd Ellis adref i'w deulu a'i ffrindiau yn cofnodi ei hanes ar ei deithiau. Bryn Fôn yw'r storïwr a fydd yn dilyn llwybrau Ellis Williams ar gefn motor-beic er mwyn ceisio dod i adnabod awdur rhyfeddol y llythyrau yn well, a phortreadir Ellis gan yr actor a'r canwr, Dyfrig Evans.
Bydd y ffilm hefyd yn torri tir newydd drwy gyfuno nifer o genres megis drama, dogfen, cerddoriaeth ac archif hanesyddol. Ond yn ôl y cynhyrchydd, Alun 'Sbardun' Huws, darllen erthygl yn Eco'r Wyddfa ychydig flynyddoedd yn ôl a ysbrydolodd y ffilm.
"Fe ges i fy nghyfareddu gan y stori ac fe es ati wedyn i wneud mwy o ymchwil i hanes Ellis yn Archifdy Caernarfon," eglura Alun, a ddaw'n wreiddiol o Benrhyndeudraeth.
"Mae'n stori draddodiadol dda efo dechrau, canol a diwedd iddi, gyda'r cyfan wedi digwydd o fewn cyfnod o ddeng mlynedd pan adawodd Ellis Gymru yn 28 mlwydd oed i'r cyfnod pan y'i lladdwyd ar y Somme yn 38 oed," ychwanega.
Teithiodd Alun, Bryn Fôn a rheolwr y cynhyrchiad, Derwyn Williams, draw i Batagonia ac Awstralia yn ddiweddar gan ddod ar draws nifer o ddarganfyddiadau rhyfeddol oedd yn fodd iddynt ddysgu mwy am fywyd a phersonoliaeth Ellis Williams.
"Roedd hon yn recce llwyddiannus iawn, a hynny yn bennaf oherwydd agwedd y bobl yn y ddwy wlad - eu parodrwydd i helpu a'u croeso cynnes," meddai Alun. "Drwy help y bobl fe lwyddon ni i ffeindio'r tŷ lle'r oedd Ellis wedi bod yn aros gyda'i ffrind, David Lloyd Jones, yn Nolafon, Dyffryn Chubut ym Mhatagonia. Yn rhyfeddol iawn doedd neb wedi cyffwrdd y lle ers amser maith ac roedd lot o'r hen greiriau yn dal yno, gan gynnwys y bwrdd lle'r arferai Ellis sgwennu ei lythyrau."
Roedd gweld y pethau yma i gyd yn cryfhau y synnwyr oedd gan Alun o Ellis fel anturiaethwr a rhywun di-ofn. "Roedd wedi gorfod gadael ei gartref yn y lle cyntaf ond roedd rhywbeth 'tyff' amdano, a dyma beth oedd yn apelio ata i o ran ei gymeriad. Roedd o'n rebel hefyd ac yn gwrthod cydymffurfio i ffasiynau'r oes. Er bod Ellis yn ymwneud rhywfaint a Chymry parchus yr eisteddfod a'r capel yn y Wladfa roedd yn well ganddo gwmni'r gauchos crwydrol.
"Roedd hefyd yn ddyn galluog, ac er na chafodd lot o addysg ffurfiol roedd yn gerddor gwych ac yn gallu chwarae'r ffidil a hefyd yn ganwr o fri, ac fe alla i ei ddychmygu yn canu i'r gauchos o gwmpas y tân."
Erbyn hyn mae'r stori yn mynd o nerth i nerth a'r cwmni teledu yn darganfod mwy am hanes rhyfeddol Ellis o wythnos i wythnos. Yn ddiweddar cysylltodd nai uniongyrchol Ellis â nhw, sef yr awdur a'r hanesydd lleol, John Ellis Williams, o Lanrug. Roedd Ellis Williams yn ewythr cyfan iddo gan fod ei dad, Joseph, yn frawd ieuengaf i Ellis, a'r ddau ohonynt wedi eu magu yn Gors. Ym meddiant John a'i deulu mae'r dog tag a wisgai Ellis pan laddwyd o yn Ffrainc, ei fedalau ac amlen gyda'r enw 'Private Ellis Williams' a anfonwyd at ei deulu gyda'i eiddo yn dilyn ei farwolaeth.