| Mae arni 15 trac o gerddoriaeth tyner ac aeddfed a ddisgrifir fel 'bwyta siocled melfedaidd hyfryd, hynod o gyfoethog, a methu'n glir a rhoi'r gorau iddi'.
Mae pobol Bro'r Eco yn gwybod am lwyddiannau Iwan ar hyd y blynyddoedd a dyma garreg filltir arall yn ei yrfa. Dyma ddywed un adolygydd mewn papur Saesneg:
'Mae gan Iwan Williams dalent aruchel ac mae'n berfformiwr gyda greddf gerddorol brin. Ganddo ef mae'r sain flugel gorau a glywais i erioed. Nid yw byth yn colli'r purdeb, pa mor gymhleth bynnag fo'r trefniant. Mae ganddo reolaeth berffaith ar ei sain a'i anadl, yn llwyddo i dawelu ei sain i weddu hefo gweddill y gerddorfa neu i orffen y darn ar nodyn buddugoliaethus.' Dyma'r anrheg Nadolig perffaith i bawb sy'n mwynhau unrhyw fath o gerddoriaeth. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch.
Dymuna Iwan ddiolch am bob cymorth a gafodd ac i bawb o'r ardal am gefnogi'r CD.
 |