| Mae Bethan Williams wedi eillio ei phen fel rhan o weithgareddau'r ysgol i sicrhau bod grŵp can actol blwyddyn 4, 5 a 6 yn gallu fforddio teithio i lawr i'r brifddinas i gystadlu am y tro cyntaf erioed.
Meddai Miss Williams: 'Mae'r plant wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y misoedd diwethaf, ac mae'r llwyddiant yn yr Eisteddfodau Cylch a Sir wedi
bod yn hwb mawr nid yn unig i'r ysgol ond i'r pentref cyfan. "Mae'n bwysig iawn i'r gymuned bod y plant yn cael cyfle i gystadlu'n
genedlaethol, ac os yw cael eillio fy mhen yn helpu i godi digon o arian i anfon bws i Gaerdydd, rwy'n fwy na hapus i'w wneud."
Gyda 60 o ddisgyblion yn yr ysgol, a'r rhan fwyaf o'r uned iau yn cymryd rhan yn y gan actol, mae Ysgol Gymuned Penisarwaun yn un o'r ysgolion lleiaf i anfon criw mawr i gystadlu yn yr Eisteddfod eleni, a chyda'r daith yn mynd i gostio ymhell dros fil o bunnau, dywed y Prifathro, Gareth Fôn Jones, bod cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar y gweill i dalu am y daith.
"Mae'r syniad o gael cyfle i berfformio ar lwyfan Canolfan y Mileniwm wedi tanio dychymyg y plant, a rydan ni i gyd fel ysgol yn gobeithio y bydd modd codi'r arian mewn pryd i dalu am y daith. "Mae mil o bunnau'n swm mawr i ysgol a chymuned fechan fel ni. Mae haelioni a bodlonrwydd Bethan i gael eillio'i phen yn siŵr o'n helpu ni i gyrraedd y targed.
"Dyma gychwyn yr ymgyrch i godi arian a thros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhedeg nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys
cyfres o weithgareddau ar gyfer y teulu cyfan yn yr ysgol ar 7-9 Mai. "Rydym yn benderfynol o gyrraedd y targed a sicrhau bod plant Ysgol Penisarwaun yn cael y cyfle i gymryd rhan yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd."
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau'r ysgol dros yr wythnosau nesaf, neu i gefnogi'r ymgyrch, cysylltwch a'r ysgol ar 01286870879.
 |