| Waunfawr yw un o bentrefi mwyaf Arfon gyda dros 1,200 o drigolion. Wedi naw mlynedd o wasanaeth, tristwch i Brian a Rita Henderson yw gorfod datgan bod Siop y Pentref, Waunfawr, yn cau. Wedi'r newidiadau yn y system talu pensiynau, o lyfr pensiwn i gardiau, nid oes cymaint yn dod i'r swyddfa Bost ac oherwydd hynny aeth busnes y siop i lawr, yn ôl Brian. Bydd y swyddfa Bost yn parhau i wasanaethu trigolion Waunfawr yn ddyddiol rhwng 9.00 a 13.00 ac 0 9.00 hyd 12.00 ar ddydd Sadwrn, ar gyfer talu biliau, cael talebau trydan a ffôn a chyfleusterau tynnu arian o'ch cyfrif, ond mae costau cynyddol wedi dod i'r amlwg i'r busnes yn ystod y flwyddyn, na ellir eu diwallu gyda gwerthiant papur newydd, torth o fara a pheint o lefrith. "Nid oes gobaith parhau i weithio dros 80 awr am lai na £2 yr awr," meddai BrianHenderson. "Bechod mawr yw colli siop mewn pentref ond ers i'r pensiynwyr dderbyn eu taliadau yn syth i'w cyfrif banc, daeth hi'n amlwg nad oedd dyfodol i'r siop." Mae Rita Henderson, y bostfeistres, a'r Swyddfa Bost eu hunain yn awyddus iawn i gadw'r swyddfa yn agored yn Y Waun, ond mae Rita yn proffwydo mai tua tri cwsmer fydd hi'n eu gweld yn ddyddiol. Bydd Brian yn ailgychwyn gwerthu bwydydd anifeiliaid ac adar yn y siop o ganol Mai ond mae'r ddau yn diolch i bob un sydd wedi bod yn gwsmer rheolaidd ac wedi eu cefnogi dros y naw mlynedd. Yn ôl yn 1965 roedd naw siop ym mhentref Waunfawr. Gyda 'siop y pentref' yn cau mewn llawer bro, a fydd hyn yn hoelan arall yn nyfodol ein diwylliant a'r iaith Gymraeg yng nghefn gwlad Cymru?
 |