BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Plant Ysgol Gynradd LlanrugEfelychu Marconi
Hydref 2004
Ar Medi 22, 1918, llwyddodd Marconi i anfon neges radio yr holl ffordd o Gefn Du, uwchben Llanrug, i ochr arall y byd.
Pan dderbyniwyd y neges yn Wahroonga, Sydney, Awstralia, dyma'r tro cyntaf erioed i hyn gael ei wneud - a gyda hyn roedd Llanrug wedi ennill ei le yn hanes dechreuad a datblygiad y radio.

Nawr, 86 mlynedd yn ddiweddarach, mae rhai o blant Bro'r Eco wedi bod yn dathlu'r digwyddiad trwy yrru negeseuon eu hunain i'r un man.

Ar Medi 22, 2004, anfonwyd ebost o Ysgol Gynradd Llanrug i Ysgol Wahroonga yn eu cyfarch a chychwyn cysylltiad rhwng y ddwy ysgol.

Gwnaed y cysylltiad ar ôl ymweliad Mrs Jo Harris, un o Gyfarwyddwyr Cymdeithas Hanesyddol o Wahroonga a'r ardal y mis diwethaf. Roedd hi, fel aelodau Pwyllgor yr elusen Cyfeillion Marconi, yn teimlo fod perygl i bwysigrwydd Cefn Du a Wahroonga yn hanes radio gael ei anghofio.

Roedd y neges yn 1918 oddi wrth W. M. Hughes, Prif Weinidog Awstralia, yn canmol rhan milwyr y wlad yn y rhyfel.

Mewn E-bost oddi wrth Bennaeth Ysgol Wahroonga i Robin Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Llanrug, roedd yn datgan fod gwneud y cysylltiad rhwng y ddwy ysgol yn gyffrous ac yn brofiad gwych i'r plant gyfnewid gwybodaeth am eu hunain a'u hardal.

Roedd hefyd yn sôn am ymweliad rhai o blant yr ysgol a'r gerfddelw o Mercury sy'n coffau'r achlysur o drosglwyddo'r neges o Gefn Du. Mae copi o'r gerfddelw hon i'w gweld yng nghyntedd swyddfa Cyngor Sir Gwynedd yng Nghaernarfon, hyd nes ceir lle teilwng ar ei gyfer yn yr ardal.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy