BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eco'r Wyddfa
Phil gyda'r tlysauPlastrwr Gorau
Tachwedd 2009
Mynychodd tri Prentis Plastro Uned Hyfforddiant Coleg Menai ac un Prentis Gwaith Coed Gystadleuaeth Genedlaethol SkillBuild yng Ngholeg South Lanarkshire yn yr Alban.

Wynebodd y pedwar gystadleuaeth galed a thasgau heriol ond, ar ddiwedd tri diwrnod caled o gystadlu, cyhoeddwyd Phil Foulkes o Lanberis yn enillydd y Fedal Aur yn y cinio gwobrwyo yn stadiwm Hampden Park.

Mae Phil, sy'n 23 mlwydd oed, yn Brentis hefo Uned Hyfforddi Coleg Menai ac yn cael ei gyflogi gan Gontractwyr Plastro Mark Phillips.

Dywedodd Phil ar y diwrnod: 'Dwi'n hapus ac wedi cael sioc i ennill medal yn y ffeinal. Dwi wedi mwynhau cymryd rhan yn y gystadleuaeth Skillbuild eleni, mae wedi bod yn waith caled ond yn werth ei wneud.

"Byddwn yn argymell cymryd rhan i unrhyw un sy'n ystyried cystadlu flwyddyn nesaf. "Hoffwn ddiolch hefyd i fy nhiwtoriaid Plastro a Chefnogi Dysgu yn y coleg am eu holl help."

Yn ogystal a chael Aur mewn Plastro, cafodd Phil ei enwi fel Enillydd Tlws Frank Eaton sy'n cael ei roi er cof am Frank Eaton, cyn brentis a ddaeth yn Brif Weithredwr a Chadeirydd Barratt.

Mae'r Tlws yn mynd i'r prentis sydd wadi dangos perfformiad ac agwedd rhagorol yn ystod y gystadleuaeth.

Ychwanegodd Phil: 'Dwi wrth fy modd fy mod i wedi ennill Aur mewn Plastro ac wedi cael Tlws Frank Eaton.'

Bydd yr enillwyr o'r rownd derfynol yn mynd ymlaen i gystadlu i fod y gorau yn y byd drwy gymryd rhan yng nghystadleuaeth rhyngwladol WorldSkills sy'n cael ei chynnal pob dwy flynedd.

Bydd y gystadleuaeth WorldSkills nesaf yn digwydd yn Llundain yn 2011.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy