| Mae Gŵyl Ffilmiau Mynydda Llanberis yn dathlu diwylliant mynydd a dathlu ysbrydoliaeth antur.
Digwyddiad cymunedol yw Llamff wedi ei drefnu gan dîm gwirfoddol, ac un gweithiwr gweinyddol rhan-amser ac mae'r ŵyl yn derbyn cefnogaeth gan amryw o noddwyr o'r sectorau cyhoeddus a phreifat. Cynhaliwyd gŵyl 2008 mewn pedair canolfan wahanol a'r thema oedd Ffilmiau ar y Ffiniau/The Welsh Edge. Gŵr lleol, Alun Hughes enillodd brif wobr yr ŵyl. Mae'r holl fanylion ar wefan www.llamff.co.uk, neu ffoniwch 01286 871534 neu ebostio [email protected]
 |